Cyfoeth Naturiol Cymru yn dathlu ugain mlynedd o goedwigaeth gynaliadwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael ei ail-ardystio am yr ugeinfed flwyddyn yn olynol am reoli ei goedwigoedd yn gynaliadwy gan gorff ardystio blaenllaw newydd Cymdeithas y Pridd.
Mesurir ardystiad ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn erbyn Safon Sicrwydd Coetir y DU (UKWAS) sy'n darparu safon annibynnol ar gyfer ardystio coetiroedd ledled y DU.
Defnyddir safon UKWAS fel sail ar gyfer y ddau gynllun ardystio coedwigoedd achrededig sy'n weithredol yn y DU; y Forest Stewardship Council® (FSC®) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).
Cod trwyddedu Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® FSC® yw FSC-C115912 a chod trwyddedu PEFC yw PEFC/16-40-1003.
Mae ardystio i un neu i'r ddau gynllun yn rhoi sicrwydd i brynwyr a defnyddwyr pren a chynhyrchion pren ei fod yn dod o goetiroedd sy’n cael eu rheoli yn gynaliadwy. CNC yw'r cyflenwr mwyaf o bren sydd â statws ardystio deuol yng Nghymru.
Meddai Rachel Chamberlain, Arweinydd Tîm Cynllunio Ystad Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r diwydiant pren yn rhan hanfodol o economi Cymru ac yn CNC rydym yn falch ein bod yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o'i gefnogi.
"Ni yw'r cyflenwr pren mwyaf yng Nghymru, ac mae ein gweithrediadau coedwigaeth yn cefnogi miloedd o swyddi ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd y flwyddyn, yn ogystal â'n helpu ni i frwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy arferion rheoli coedwigaeth cynaliadwy.
"Mae tua 850,000 tunnell o bren yn cael ei ffynonellu'n gynaliadwy o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae cael y system ardystio hon yn golygu ein bod yn gallu rhoi sicrwydd i’n cwsmeriaid fod pren, papur a chynhyrchion eraill sy'n dod o'n coedwigoedd yn dod o ffynhonnell gynaliadwy.