Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddod at ei gilydd i greu dyfodol natur bositif
Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull i drafod sut i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yng nghynhadledd flynyddol COP28, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i ymrwymo i weledigaeth 'Natur a Ni’ ar gyfer Cymru yn 2050, lle bydd cymdeithas a byd natur yn ffynnu gyda'n gilydd.
Mewn llythyr agored, mae Prif Weithredwr CNC, Clare Pillman, wedi annog sefydliadau’r sector cyhoeddus i gydweithio a, gyda phobl Cymru, i ymateb ac ymrwymo i weithredu ar y weledigaeth gyffredin hon ar gyfer y dyfodol.
Mae gweledigaeth Natur a Ni yn nodi her ysbrydoledig i ddod o hyd i atebion i argyfwng natur a’r hinsawdd.
Fe’i crëwyd gan gynulliad dinasyddion yn cynnwys lleisiau miloedd o bobl ledled Cymru a rannodd y math o ddyfodol y maent am ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.
Mae’r weledigaeth yn disgrifio Cymru yn y dyfodol lle mae byd natur a chymdeithas yn ffynnu gyda’n gilydd ar sail ymrwymiad ar y cyd i ddiogelu ac adfer byd natur.
Mae’n gweld mynediad mwy cyfartal i fannau gwyrdd, seilwaith gwyrddach a chysylltiadau cryfach â’n hardal leol ac o ble daw ein bwyd.
Mae hefyd yn nodi camau allweddol y gall y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach eu cymryd i alluogi pobl i chwarae rhan fwy wrth greu’r dyfodol hwn. Mae’r rhain yn cynnwys: dangos arweiniad, cynnwys pobl yn fwy wrth wneud penderfyniadau, a rhannu gwybodaeth yn well i hysbysu a grymuso pobl i weithredu.
Mae CNC, a gefnogodd fenter Natur a Ni a arweiniodd at y weledigaeth, bellach wedi cyhoeddi ei ymrwymiad i wireddu’r weledigaeth hon yn y llythyr agored.
Mae’r llythyr yn nodi sut y bydd CNC yn defnyddio ac yn rhannu ei dystiolaeth, yn gofalu am y tir sy’n eiddo iddo, ac yn cynnwys pobl i gyflymu camau gweithredu dros fyd natur.
Mae hefyd yn dweud bod yn rhaid gwneud ymdrech ar y cyd i gyflawni’r nodau hyn ac y dylai ein cynlluniau busnes ar y cyd roi gwell ystyriaeth i fyd natur.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae CNC wedi gosod her iddo’i hun o ran a ydym yn mynd yn ddigon pell i gyflawni’r weledigaeth. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i ni gydweithio fel Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru fel y gallwn gyd-ddylunio atebion mwy cynhwysol ac integredig i oresgyn yr heriau dybryd hyn, a gallwn ystyried y Weledigaeth hon yn symbol o obaith ar gyfer y dyfodol.
Mae llawer ohonom yn gweithio tuag at newid yn barod, ac mae gan Gymru lawer i’w ddathlu. Ond mae angen i ni fynd gam ymhellach ar y cyd ar gyfer byd natur, ac ar gyfer llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
“Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain – rhaid i ni i gyd weithio gyda phobl Cymru dros natur a throsom ni.”
Anfonwyd y llythyr yn uniongyrchol at Brif Weithredwyr o sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Mae ar gael ar wefan CNC.
Darllenwch gweledigaeth Natur a Ni a chewch rhagor o wybodaeth am Natur a Ni yma.