Cyflwyno pysgod brodorol i reoli rhywogaethau goresgynnol yn Sir Gaerfyrddin

Llyfrothen Uwchsafn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno pysgod brodorol i sawl corff dŵr yn Sir Gaerfyrddin er mwyn rheoli poblogaethau goresgynnol o lyfrothod uwchsafn (Pseudorasbora parva).

Mae’r broses o gyflwyno draenogiaid dŵr croyw (Perca fluviatilis) sydd wedi’i chynllunio’n ofalus, wedi bod yn digwydd ar bum safle yn y sir: Parc Dŵr y Sandy; Morollwg, Pwll lludw a chronfa ddŵr Lliedi Isaf yn Llanelli, a phwll preifat yn Nghynheidre. 

 Mae eu cyflwyniad yn dilyn ymchwil helaeth i’r berthynas rhwng ysglyfaethwr ac ysglyfaeth. Mae draenogiaid, sy'n rhywogaeth frodorol, wedi'u nodi fel ysglyfaethwr naturiol i'r llyfrothen uwchsafn ac yn ddull effeithiol o reoli poblogaeth heb yr angen am ymyrraeth gemegol. 

 Dosberthir llyfrothen uwchsafn fel 'Rhywogaeth Categori 5' o dan Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw 1980 (ILFA), sy'n nodi ei bod yn un o'r pysgod estron mwyaf niweidiol posibl sydd wedi gwthio’i ffordd i Orllewin Ewrop. Mae ei phresenoldeb yn bygwth bywyd gwyllt a chynefinoedd brodorol, a gallai ei lledaeniad cyflym arwain at ganlyniadau ecolegol cenedlaethol difrifol. 

 Mae’r rhaglen reoli sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, a ddatblygwyd gan CNC drwy weithio’n agos â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Gwledig Llanelli, Cymdeithas Genweirio Swiss Valley, a pherchennog tir preifat. 

 Meddai Beth Greenfield, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol, CNC: 

Trwy gyflwyno ysglyfaethwr naturiol, rydym yn mabwysiadu agwedd ragweithiol a chynaliadwy er mwyn rheoli poblogaethau o bysgod goresgynnol ac ar yr un pryd rydym yn cefnogi bioamrywiaeth frodorol. 
Er mai triniaeth gemegol yw’r dull mwyaf effeithiol o reoli Llyfrothod uwchsafn yn y DU, mae’r safleoedd penodol hyn wedi cael eu gwerthuso a’u canfod yn anaddas ar gyfer mesurau o’r fath oherwydd eu maint a’u cysylltedd â chyrff dŵr eraill. O dan yr amgylchiadau hyn, mae defnyddio draenogiaid yn ddewis ymarferol yn hytrach na rheoli poblogaeth y pysgod goresgynnol. 
 Mae’r fenter hon yn seiliedig ar ymchwil wyddonol drylwyr, a bydd ein tîm yn monitro effeithiolrwydd y dull yn agos trwy gynnal arolygon rheolaidd a defnyddio technegau dadansoddi moleciwlaidd uwch.

 Mae’n bosibl y bydd pysgotwyr a thrigolion lleol yn sylwi ar weithgarwch cynyddol o amgylch y cyrff dŵr hyn, gan gynnwys presenoldeb timau CNC yn cyflwyno pysgod, gosod offer monitro, a chynnal arolygon ecolegol rheolaidd. Mae cydweithrediad a chefnogaeth y gymuned yn amhrisiadwy wrth warchod ecosystemau dyfrol lleol. 

 Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon neu i roi gwybod am unrhyw rywogaethau o bysgod goresgynnol yr ydych yn digwydd eu gweld, cysylltwch â 0300 065 3000 neu ewch i wefan CNC.