Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amddiffyn y gorffennol a'r dyfodol

Mae diogelu a deall ein treftadaeth, a’n hamgylcheddau naturiol a hanesyddol, yn ein helpu i gwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r Gymru fodern.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Heneb (Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru gynt) a Cadw wedi bod yn cydweithio’n llwyddiannus i gwrdd â’r heriau hynny ers bron i 10 mlynedd, diolch i waith yn seiliedig ar Femoranda Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd yn 2016 a 2020.

Mae Prif Weithredwr Dros Dro CNC, Ceri Davies, Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes, a Phrif Weithredwr Heneb, Richard Nicholls, wedi adnewyddu eu hymrwymiad i gydweithio drwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi'r amcanion a'r ddealltwriaeth gyffredin mewn perthynas â materion sydd o ddiddordeb i'r llofnodwyr yn yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol.

Ond ar ben hynny, maent wedi codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylcheddau hyn, eu nodweddion, a manteision rhyngweithio a chydweithio.

Dywedodd Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro CNC:

“Mae ethos y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn aml wedi bod yn gatalydd ar gyfer cydweithio - am y tro cyntaf mewn rhai meysydd - ac yn hwb i gydweithio cryfach a chliriach mewn meysydd sefydledig.
“Mae egwyddorion ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi sut y byddwn i gyd yn cydweithio’n ymarferol i sicrhau bod yr amgylcheddau hanesyddol a naturiol yn rhan annatod o benderfyniadau sy’n effeithio ar reoli tir a’n bod yn rhoi sylw dyledus i’r dyletswyddau penodol a osodir arnom drwy ddeddfwriaeth.
“Ar nodyn ymarferol, rydym wedi datblygu digwyddiadau hyfforddi ac wedi gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth, ac i ddod â phobl ynghyd ar gyfer cydweithio effeithiol.”

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

“Mae Cymru’n cael ei chydnabod yn eang am ei thirweddau naturiol a hanesyddol eithriadol - tirweddau a luniwyd dros filoedd o flynyddoedd gan genedlaethau o bobl yn gweithio gyda’r tir.   
“Mae’r bartneriaeth hon yn llwyfan gwerthfawr iawn lle mae ymarferwyr sy’n angerddol am ofalu am ein treftadaeth werthfawr yn gallu cydweithio i gefnogi cadwraeth a rheolaeth gynaliadwy o’n hamgylchedd naturiol a hanesyddol.  
“Drwy’r cytundeb hwn rydym wedi gweld gwell cydweithio, wedi gweithio gyda’n gilydd i wella ein dealltwriaeth o heriau’r argyfwng natur a hinsawdd - a’r addasiadau sydd eu hangen - ac wedi datblygu enghreifftiau o arfer gorau i lywio dulliau rheoli tir at y dyfodol.” 

Dywedodd Richard Nicholls, Prif Swyddog Gweithredol Heneb:

“Mae cydweithio rhwng swyddogion yr amgylchedd hanesyddol, cadwraethwyr, a rheolwyr tir yn helpu i greu synergeddau sy’n arwain at strategaethau rheoli tir mwy effeithiol a chydgysylltiedig.
“Mae’r dull hwn yn sicrhau bod ein treftadaeth naturiol a diwylliannol yn cael eu cadw a’u cynnal gyda’i gilydd, er budd pawb yng Nghymru, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Heneb – sef Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru – felly wedi ymrwymo’n llwyr i gryfhau’r bartneriaeth hollbwysig hon.”