Y pedwarawd pwysig sy'n helpu i adfer cynefin rhos a chors gwerthfawr yn Sir Fynwy
Bydd prosiect adfer newydd cyffrous rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy yn helpu i adfer cynefinoedd rhos a chors gwerthfawr yn Sir Fynwy, de Cymru.
Bydd prosiect adfer newydd cyffrous rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy yn helpu i adfer dau o'r cynefinoedd rhos a chors olaf yn Sir Fynwy, de Cymru.
Mae Cors Cleddon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Beacon Hill yn Nyffryn Gwy, yn gynefin gwerthfawr i amrywiaeth o fywyd gwyllt a phlanhigion prin ac mae angen rheolaeth ofalus er mwyn atal prysgwydd rhag meddiannu’r tir.
Fel rhan o'r gwaith hanfodol i adfer y cynefin yn y ddau safle, mae pedwar o wartheg Belted Galloway – o’r enw Ringo, Penguin, Ginger ac Oak yn dod i bori'r tir. Bydd y gwartheg yn helpu i adfer y cynefinoedd prin drwy agor tirweddau'r gors a'r rhostir ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae’r safle yn Beacon Hill yn gynefin rhostir cenedlaethol bwysig sy’n cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt cynyddol brin, gan gynnwys grug, llus, briwydd wen, effros a melog y cŵn.
Mae'n gartref hefyd i'r troellwr mawr sydd i'w weld a'i glywed ar y rhostir yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Mae'n gofyn am reolaeth weithredol i gadw'r llystyfiant fel rhedyn, mieri a bedw rhag ymledu’n ormodol, gan arwain at golli’r cynefin gwerthfawr hwn.
Mae rhannau o'r rhostir wedi cael eu clirio dros y blynyddoedd diwethaf ac mae dechrau pori'r safle yn rhan bwysig o reoli cynefin rhostir amrywiol mewn modd cadarnhaol.
Mae pori gyda gwartheg yn ddull rheoli pwysig gan eu bod yn pori planhigion y rhostir yn ddetholus ac yn pori rhywfaint o'r prysgwydd bedw goresgynnol, gan helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng y mathau gwahanol o gynefinoedd.
Mae Cors Cleddon yn gartref i nifer o rywogaethau o blanhigion anarferol, gan gynnwys llafn y bladur a chwys yr haul, planhigyn cigysol sy’n bwyta pryfed. Mae'r gors yn cefnogi nifer o bryfed, sy'n creu’r amodau perffaith i rywogaethau fel ystlumod.
Mae’r gors fawnog hon yn helpu i chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gloi carbon yn ogystal â helpu i reoleiddio llif llifogydd i'r gymuned leol. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae lefelau'r dŵr yn y gors wedi gostwng, ac mae planhigion sy'n ffafrio amodau sychach, fel glaswellt y gweunydd a bedw wedi dod yn fwy cyffredin, gan gyflymu'r broses sychu.
Mae'r gwartheg Belted Galloway yn mynd i bori'r tir a byddant yn helpu i reoli'r prysgwydd a malu'r llystyfiant trwchus, gan ganiatáu i'r migwyn a phlanhigion arbennig eraill y gors, a’r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt, i ffynnu.
Mewn partneriaeth ag AHNE Dyffryn Gwy, mae deg gwirfoddolwr lleol wedi dod at ei gilydd ac wedi cael hyfforddiant i fonitro'r gwartheg a gofalu am eu hiechyd a'u lles drwy archwiliadau gweledol rheolaidd. Pasiodd yr holl wirfoddolwyr gymhwyster archwilio da byw LANTRA (sy'n cael ei redeg gan y Rare Breed Survival Trust) ac mae ganddynt rota i gynnal yr archwiliadau dyddiol.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan grant mawndiroedd bach CNC. Cyrhaeddodd y gwartheg gors Cleddon ar gyfer cyfnod prawf ym mis Mawrth a byddant yn treulio misoedd y gwanwyn a’r haf ar Beacon Hill.
Dywedodd Rosalind Watkins, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i CNC weithio gyda'r AHNE ar brosiect pwysig a chyffrous iawn.
Mae rhoi gwartheg i bori ar Gors Cleddon a Beacon Hill wedi bod yn nod hirdymorgan ei fod yn rhan bwysig o reolaeth gadarnhaol ar y ddau gynefin. Rwy'n edrych ymlaen at weld y buddion a ddaw o ran cyflwr y cynefinoedd gwerthfawr hyn yn sgil y prosiect partneriaeth hwn.
Dywedodd Nickie Moore o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy:
Rydym wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda'n partneriaid yn CNC a Chominwyr lleol ar raddfa tirwedd, gyda thri chynllun pori yn cysylltu'r rhostiroedd â'r mawndir – yn Beacon Hill a Broad Meend (Ystad Goedwigaeth CNC), lle mae cominwyr lleol wedi bod yn pori gyda merlod ers nifer o flynyddoedd, a chors Cleddon.
Meddai Alex Crawley o Conservation Grazing Management:
Rydym yn edrych ymlaen at weld ein gwartheg Belted Galloways, Ringo, Penguin, Ginger ac Oak, yn pori ar Beacon Hill eleni, gan helpu i roi budd o ran cadwraeth i'r cynefin gwerthfawr a phrin hwn. Rydym wedi dysgu llawer o’r cyfnod prawf ar Gors Cleddon a byddwn yn defnyddio’r profiad hwnnw yn y safle newydd hwn. Mae wedi bod yn hyfryd gweld cymaint o ddiddordeb sydd wedi bod mewn pori cadwraethol a'i werth i'n byd naturiol, sydd dan bwysau mawr ar hyn o bryd.