Partneriaeth leol yn helpu i amddiffyn pathewod sydd mewn perygl difrifol yng Ngogledd Cymru

Mae prosiect dan arweiniad y gymuned yn helpu i amddiffyn un o’r mamaliaid sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf ym Mhrydain, diolch i bartneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chanolfan Sgiliau Coetir Bodfari.
Eleni, mae blychau nythu wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer pathewod wedi cael eu llunio am y tro cyntaf yn y ganolfan gan ddefnyddio pren lleol o Goedwig Clocaenog, CNC. Contractwr lleol a chanddo gyfleusterau melino coed fu’n gyfrifol am baratoi’r pren cyn iddo gael ei wneud yn flychau nythu gan wirfoddolwyr ym Modfari.
Defnyddir yr holl flychau yn unig ar dir CNC. Un o'r prif safleoedd monitro yw Coed y Fron Wyllt, ger Rhuthun, lle mae blychau'n cael eu harchwilio bedair gwaith y flwyddyn i gasglu data a chefnogi adferiad y rhywogaeth.
Gosodwyd y blychau pathewod cyntaf tua 20 mlynedd yn ôl yng Nghoed y Fron Wyllt (tua 200 o flychau) ac rydym wedi bod yn monitro byth ers hynny. Mae’r blychau'n agored i'r elfennau, sy'n effeithio ar eu hirhoedledd, ac mae angen eu disodli pan na fyddant yn addas i’r diben mwyach.
Mae pathewod coed cyll mewn perygl difrifol yn y DU, gyda niferoedd wedi gostwng 70% rhwng 2000 a 2022, yn ôl adroddiad Cyflwr Pathewod Prydain. Maent yn rhywogaeth warchodedig o dan gyfraith Ewropeaidd, sy’n gwneud gwaith cadwraeth yn hanfodol ar gyfer eu goroesiad.
Dywedodd Glenn Williams, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC:
“Mae hyn yn enghraifft ardderchog o sut y gall partneriaethau lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt.
“Mae pathewod yn rhan hanfodol o ecosystemau ein coetiroedd, a thrwy gynnwys cymunedau yn y gwaith o’u gwarchod, rydym yn helpu natur a phobl i ffynnu. Bydd y blychau hyn yn darparu mannau nythu diogel ac yn ein helpu i fonitro sut mae pathewod yn ffynnu yn ein coedwigoedd.”
Dywedodd Rod Waterfield yng Nghanolfan Sgiliau Coetir Bodfari:
“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r gwaith cadwraeth pwysig hwn. Mae cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol wrth wraidd yr hyn a wnawn, felly mae helpu i adeiladu'r blychau nythu hyn yn gweddu'n berffaith.
“Rydym yn cynnal rhaglen Gymorth Cymunedol ar ran y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan ein cyfranogwyr fynediad at ddau randir, gardd farchnad, twneli polythen a pherllan. Maen nhw hefyd yn defnyddio gweithdy gwaith coed lle maen nhw'n gwneud eitemau ar gyfer grwpiau amgylcheddol fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Achub Draenogod.
“Mae’r gwaith hwn yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas i’n cyfranogwyr ac yn dangos sut y gall sgiliau traddodiadol gefnogi nodau amgylcheddol modern.”