Dyn o Lanelli yn cael dedfryd ohiriedig am droseddau gwastraff
Mae dyn o Lanelli wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar ar ôl iddo gyfaddef iddo redeg ymgyrch wastraff anghyfreithlon ar dir fferm ar rent ger Bynea, mewn erlyniad a ddygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dedfrydwyd Stephen Billings o Fôr Awel, Llanelli, i 15 mis o garchar, wedi'i ostwng i 10 mis i gydnabod ei ble euog, yn Llys y Goron Abertawe. Cafodd y ddedfryd ei gohirio am 12 mis.
Cyfaddefodd Mr Billings ei fod, rhwng 2019 a 2021, wedi mewnforio symiau sylweddol o wastraff yn cynnwys mwy nag 1,000 tunnell o blastig, oergelloedd a gwastraff domestig ac adeiladu cyffredinol yn ogystal â mwy nag 1,000 o deiars i dir yr oedd yn ei rentu ar Fferm Ffos Fach.
Cyfaddefodd hefyd iddo gadw, trin a gwaredu ar wastraff rheoledig mewn modd a fyddai'n debygol o lygru'r amgylchedd neu achosi niwed i iechyd pobl.
Roedd y gwastraff yn cael ei losgi’n rheolaidd ar y safle, cafodd awdurdodau 28 adroddiad o losgi yn 2019 yn unig, ac roedd tanau i’w gweld yn rheolaidd mor bell â thair milltir i ffwrdd.
Cafodd y tanau hyn effaith sylweddol ar ansawdd yr aer i gartrefi a busnesau cyfagos lle roedd arogl llosgi cemegau a phlastigau yn achosi i bobl deimlo'n sâl, a hefyd yn effeithio'n ddifrifol ar yr amgylchedd lleol.
Ymwelodd swyddogion CNC â fferm Ffos Fach sawl gwaith gan roi cyngor ac arweiniad i Mr Billings ynghylch sicrhau cydymffurfedd ar y safle, ond er gwaethaf yr ymweliadau hyn parhaodd â’i weithgareddau anghyfreithlon tan 2021 pan adawodd y safle, wedi’i orchuddio â gwastraff.
Cyflwynwyd Hysbysiad A59 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i Mr Billings ym mis Ebrill 2023 i symud y gwastraff o'r safle erbyn 31 Mai 2023. Ni symudodd Mr Billings unrhyw wastraff o’r safle ac, o ganlyniad, cafodd Mr Billings ei erlyn gan CNC am bob trosedd yr oedd wedi’i chyflawni ar y safle.
Roedd gweithgareddau Mr Billings yn peri risg sylweddol i Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cilfach Tywyn ac Aber Llwchwr sydd gerllaw Fferm Ffos Fach.
Mae’r ddwy ardal yn ardaloedd gwarchodedig o bwys ecolegol ac amgylcheddol sy’n cynnal ystod eang o gynefinoedd morol a bywyd gwyllt, y mae rhai ohonynt yn unigryw yng Nghymru.
Roedd pentyrru a llosgi'r gwastraff ar y safle yn peri risg sylweddol i'r safleoedd gwarchodedig hyn.
Cafodd effaith gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon Mr Billing effaith sylweddol hefyd ar weithredwyr gwastraff trwyddedig dilys eraill yn yr ardal.
Drwy weithredu heb unrhyw hawlenni neu drwyddedau amcangyfrifir bod Mr Billings wedi osgoi costau o £83,000 o leiaf wrth redeg ei waith gwastraff anghyfreithlon.
Yn ogystal â'i ddedfryd ohiriedig, gorchmynnwyd Mr Billings hefyd i ymgymryd â chyfnod adsefydlu am 28 diwrnod a gwneud 150 awr o waith di-dâl. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu £500 o gostau am £50 y mis.
Meddai Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cymru CNC:
“Mae gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon yn effeithio ar bobl, yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd ac economi Cymru. Gallant lygru dŵr, niweidio bywyd gwyllt, peryglu iechyd pobl a thanseilio busnesau cyfreithlon a rhoi pwysau ar adnoddau rheoleiddwyr a chyrff gorfodi sydd eisoes dan bwysau.
“Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn anfon neges glir i weithredwyr gwastraff anghyfreithlon bod eu gweithredoedd nid yn unig yn niweidiol ond hefyd yn droseddol ac y bydd y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon heb feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd yn destun ymchwiliad ac yn cael eu herlyn gan CNC.”