Perchennog tir o Lanelli yn cael dirwy am ollwng a llosgi gwastraff anghyfreithlon
Mae cyn-swyddog heddlu wedi cael gorchymyn i dalu £3,740 ar ôl cyfaddef i dri chyhuddiad yn ymwneud â gollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar ei thir yn Nyffryn y Swistir, Felinfoel, Llanelli yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn Llys Ynadon Llanelli, cyfaddefodd Samantha Prynne i ddau gyhuddiad o ganiatáu gollwg gwastraff rheoledig ar y safle heb drwydded amgylcheddol a chaniatáu llosgi gwastraff rheoledig ar y safle.
Ar 22 Hydref, 2019, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MWFRS) ei alw i dân mawr yn Stablau Cammarch, sy'n eiddo i Samantha Prynne.
Erbyn i griw MWFRS gyrraedd roedd y tân yn ei anterth â chaniau ffrwydro a nwyddau gwyn yn llosgi. Nid oedd y diffoddwyr tân yn gallu mynd yn agosach na 50m at y tân a phenderfynwyd gadael i'r tân losgi’n llwyr i sicrhau diogelwch y criw.
Dychwelodd MWFRS i'r safle am hanner nos i weld y tân yn llosgi gyda'r un ffyrnigrwydd ac yna eto am 7am y diwrnod canlynol pan oedd y tân wedi llosgi gyda dim ond ychydig o bocedi o wastraff yn dal i fod ar dân.
Cyfarfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru â MWFRS ar y safle ar 24 Hydref.
Ar safle'r tân, roedd pentwr mawr o wastraff, yn cynnwys teiars, rhannau o gerbydau, cludwyr anifeiliaid anwes, soffas, toiledau, caniau, teils, gwastraff gwyrdd, sosbenni, carped, cypyrddau dillad MDF, silindrau nwy, beiciau, nwyddau gwyn a gwastraff bagiau du a chlytiau, yn dal i fudlosgi.
Cyfrifodd swyddogion y byddai'r gwastraff wedi gorchuddio tua 650m2 cyn y tân.
Ar 15 Tachwedd, aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru draw i’r safle unwaith eto lle gwelon nhw fod y gwastraff oedd wedi llosgi ac wedi llosgi’n rhannol yn dal i fod yno a bod llawer o wastraff newydd wedi ei ollwng ochr yn ochr â'r gwastraff oedd wedi llosgi.
Roedd y gwastraff newydd hwn yn cynnwys bagiau bin du, deunyddiau adeiladu, gwastraff ailgylchu bagiau glas, matres gwely, cypyrddau pren, chwaraewr recordiau, recordiau finyl, seddi ceir, potiau blodau plastig, carpedi, ceblau gwifren, teiars ac eitemau plastig amrywiol.
Roedd llawer iawn o ddeunydd pacio heb ei agor yn dal meddyginiaeth ar ffurf tabledi yn y bagiau du oedd ar bresgripsiwn i Ms Prynne. Roedd eitemau eraill wedi eu cyfeirio at Ms Prynne yno hefyd.
Nid oedd gan y safle unrhyw drwyddedau nac esemptiadau amgylcheddol a fyddai wedi caniatáu gollwng, llosgi na chludo gwastraff ar y tir.
Er nad oedd tystiolaeth uniongyrchol o bwy a ddaeth â'r gwastraff i'r safle neu ei losgi, canfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd y safle yn ddiogel ar bob un o'u hymweliadau.
Drwy beidio â diogelu’r safle, roedd Ms Prynne yn caniatáu golwg gwastraff yn fwriadol.
Cafodd y tân ar 22 Hydref ei gynnau’n fwriadol a gellid ei ragweld oherwydd nifer o danau cynharach ar y safle, unwaith eto drwy beidio â diogelu’r safle roedd Ms Prynne yn caniatáu llosgi gwastraff yn fwriadol.
Cafodd ddirwy o £1,800 a gorchmynnwyd iddi dalu £1,500 o gostau a gordal dioddefwr o £170.
Dywedodd Jonathan Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae troseddau gwastraff nid yn unig yn beryglus i'r amgylchedd, maent hefyd yn peri risg i gymunedau lleol, yn ogystal â thanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon.
"Dyna pam mae angen trwyddedau amgylcheddol ar weithgareddau fel y rhain sy'n nodi'r rheolau y mae'n rhaid eu dilyn fel nad ydynt yn peri risg i'r amgylchedd a phobl leol.
"Pan anwybyddir y rheolau hynny, boed hynny er budd masnachol neu oherwydd rheolaeth wael, byddwn bob amser yn cymryd y camau priodol i ddiogelu ein hadnoddau naturiol a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
"Hoffem ddiolch hefyd i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu Dyfed Powys am eu cymorth gyda'r achos hwn.
“Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn eu hardal roi gwybod amdano drwy ffonio ein llinell ddigwyddiadau ar 0300 065 3000.”