Digwyddiad cymunedol yn Llandinam i ddysgu mwy am gynlluniau sylweddol i adfer afon

Llun o'r awyr yn dangos yr Afon Hafren yng Ngwarchodfa Natur Graean Llandinam

Gwahoddir pobl sy'n byw yn Llandinam a'r cyffiniau i ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus i ddysgu mwy am gynlluniau i adfer cynefin sy’n bwysig i fywyd gwyllt ar afon Hafren.

Byddai'r cynllun gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn golygu adfer prosesau naturiol yr afon ar hyd rhan o afon Hafren yng Ngwarchodfa Natur Graean Llandinam ac adfer ac atgyfnerthu gwelyau graean sy'n cynnal infertebratau, adar hirgoes a phoblogaethau o bysgod.

Bydd hyn yn golygu annog sianeli ychwanegol i brif lif afon Hafren, sydd wedi’i sythu yn hanesyddol, drwy osod darnau mawr o bren i sbarduno adferiad.

Ar hyn o bryd cynigir i’r gwaith ar y cynllun ddechrau yn ystod haf 2025, yn ddibynnol ar gyllid.

Bydd tîm prosiect CNC yn cynnal sesiwn galw heibio gyhoeddus ddydd Llun 9 Medi, 2-7pm yn Neuadd Bentref Llandinam, er mwyn rhoi cyfle i bobl leol ddysgu mwy am y cynigion a gofyn cwestiynau.

Meddai Dr Suzanne Hearn, Arweinydd Tîm Ecosystemau Dŵr Croyw a Rheoli Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Yr Afon Hafren yw’r afon hiraf ym Mhrydain ac mae’n darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt yr afon gan gynnwys dyfrgwn, bronwennod y dŵr a gweision y neidr.
"Fodd bynnag, yn Llandinam, mae sythu a charthu'r afon wedi lleihau arwynebedd y graean. Mae colli cynefin yn mynd yn fwyfwy heriol i lawer o rywogaethau sydd eisoes dan fygythiad, gan gynnwys yr eog eiconig, sy'n dibynnu ar welyau graean mewn afonydd i ddodwy wyau.
“Nod ein rhaglen adfer uchelgeisiol yw adfer nodweddion afonol naturiol a helpu i wyrdroi’r tueddiad o ran dirywiad bioamrywiaeth.  
“Rydym yn deall bod gan y gymuned lawer o gwestiynau am ein cynigion, a byddwn yn hapus i drafod yn fwy manwl yn ein digwyddiad galw heibio cymunedol fis nesaf.”

Ariennir y cynllun gan Raglen Gyfalaf Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys gwaith i adfer mawndir, adfer mwynfeydd metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol.

Mae CNC yn ymwybodol bod y pentref yn anffodus wedi dioddef llifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mewn cynllun ar wahân, mae Cyngor Sir Powys wedi gosod bwnd pridd bach i leihau perygl llifogydd i bentref Llandinam.

Nod y prosiect adfer cynefinoedd hwn yw darparu buddion lluosog, gan greu corff dŵr mwy gwydn i bobl a natur. 

Mae rhagor o wybodaeth am yr amcanion a'r cynigion ar gyfer y cynllun adfer afon ar gael ar wefan prosiect CNC.