Rhoi trwydded ar gyfer rhyddhau afancod i dir caeedig mewn gwarchodfa natur yng Nghanolbarth Cymru
Mae trwydded i ryddhau afancod i ddarn o dir caeedig yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi, ger Machynlleth wedi’i chyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Cyflwynwyd y cais i CNC i ryddhau hyd at chwe afanc i ddarn o dir caeedig pwrpasol yn y warchodfa yn y Canolbarth gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn sy’n rheoli’r tir.
Mae’r afancod yn cael eu defnyddio fel rhan o gynllun rheoli ar gyfer gwarchodfa Cors Dyfi. Y gobaith yw y bydd y mamal lled-ddyfrol yn helpu i adfer cynefin y gwlyptir ac yn rhoi hwb i rywogaethau eraill trwy reoli twf coed a phrysgwydd a gwella cyflwr mawnog yr iseldir sydd ar y safle.
Gwnaed y cais i CNC oherwydd bod angen trwydded rhywogaeth er mwyn rhyddhau Afancod Ewrasiaidd i dir caeedig neu i’r gwyllt yng Nghymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ac yn dilyn asesiad o wybodaeth a gafwyd gan yr ymgeiswyr a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gafwyd, mae CNC yn fodlon y dylid rhoi trwydded.
Roedd y broses o benderfynu ar y cais yn cynnwys amrywiaeth o asesiadau yn cynnwys rhai ar y gweithrediadau rheoli, perygl o ran clefydau a threfniadau monitro’r safle. Gwnaed asesiadau hefyd ar y tir caeedig a’r modd y caiff ei gynnal a’i gadw a’r adnoddau a’r gweithdrefnau sydd ar waith pe bai achos lle mae afanc yn dianc yn ddamweiniol, er bod hynny’n annhebygol.
Mae’n ofynnol i CNC roi trwydded os yw’r ymgeisydd yn medru profi y bydd y tir caeedig yn gweithredu i safonau priodol ac y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni. Ni ellir gwrthod rhoi trwydded ar sail y ffaith bod gwrthwynebiad i’r gweithgaredd.
Dywedodd Gavin Bown. Pennaeth Lle ar gyfer Canolbarth Cymru:
“Rydym yn cydnabod bod barn gref o blaid ac yn erbyn rhyddhau afancod i dir caeedig yn Aber Afon Dyfi.
"Ar ôl edrych yn ofalus ar y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, rydym yn hyderus bod y cais yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ac y dylem roi’r drwydded.
“Pan fydd yr afancod wedi eu rhyddhau i’r darn o dir caeedig, bydd gofyn i’r ymgeisydd fonitro’r afancod a’u heffaith ar y warchodfa.”