Menter bartneriaeth ar y cyd i fynd i’r afael â gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd yn Ne Cymru
Heddiw (22 Mawrth), cyhoeddwyd cytundeb partneriaeth newydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Heddlu De Cymru i sefydlu uned beiciau modur oddi-ar-y-ffordd newydd i helpu i fynd i’r afael â gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd yn Ne Cymru.
Bydd yr uned newydd yn galluogi swyddogion i batrolio De Cymru yn amlach, er mwyn helpu i rwystro gyrwyr anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd rhag niweidio coedwigoedd a rhoi bywydau pobl yn y fantol.
Bydd yr uned newydd yn cael ei hariannu am dair blynedd gan gronfa Enillion Troseddau CNC.
Trwy batrolio’n amlach, bydd modd helpu i leihau niwed i’r amgylchedd ac i gynefinoedd bywyd gwyllt sensitif yn sgil gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd, a hefyd bydd modd gwella ansawdd a diogelwch yr amgylchedd i bobl eraill sy’n defnyddio coedwigoedd.
Ymhellach, bydd yn helpu i leihau niwed i asedau hamdden fel llwybrau beicio mynydd, a’r nod yw mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig â dulliau mynediad o’r fath, fel rêfs, dwyn tanwydd ac offer a niweidio safleoedd cynaeafu.
Yn ôl David Liddy, Cynghorydd Arbenigol Hamdden yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
Dyma bartneriaeth bwysig iawn ac rydym yn croesawu’r cyfle i gael gweithio gyda Heddlu De Cymru ac Awdurdodau Lleol i helpu i fynd i’r afael â’r gweithgaredd gwrthgymdeithasol hwn.
Pan fydd gweithgareddau gwrthgymdeithasol a gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd yn digwydd ar ein safleoedd, gall hyn roi pobl a natur mewn perygl ac mae’r costau glanhau ac atgyweirio yn sylweddol.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o ddigwyddiadau gyrru anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd ledled De Cymru, ac mewn rhai achosion mae aelodau o’r cyhoedd wedi dioddef ymosodiadau geiriol, a hyd yn oed ymosodiadau corfforol.
Mae ymddygiad o’r fath yn gwbl annerbyniol ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau i fynd i’r afael â’r mater hwn, er mwyn sicrhau y bydd ein coedwigoedd a’n coetiroedd yn fannau diogel i bawb eu mwynhau.
Yr Uwcharolygydd Marc Lamerton, Arweinydd Strategol De Cymru ar gyfer mynd i’r afael â beicio gwrthgymdeithasol oddi-ar-y-ffordd
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ac asiantaethau partner i fynd i’r afael â materion a gaiff effaith niweidiol ar breswylwyr ac rydym wastad yn ceisio rhoi atebion hirdymor ar waith wrth ddatrys problemau.
Drwy’r Gwanwyn a’r Haf, byddwn yn rhoi ein Tîm Gyrru Gwrthgymdeithasol Oddi-ar-y-Ffordd newydd ar waith. Bydd y tîm hwn yn gweithio’n agos gyda CNC a swyddogion lleol i gymryd camau cadarnhaol yn erbyn troseddwyr.
Pe baech yn gweld rhywun yn gyrru’n ddi-hid oddi-ar-y-ffordd, fe’ch anogir i roi gwybod i’r awdurdodau’n syth.
Os gwelwch rywun yn gyrru’n anghyfreithlon oddi-ar-y-ffordd, ffoniwch yr heddlu ar 101.