tegeirian troellig Wyddelig

Mae tegeirian prin iawn o'r enw troellig Wyddelig, nad yw'n hysbys yn unman arall yng Nghymru nac yn Lloegr, wedi ymddangos ar warchodfa yng nghanolbarth Cymru a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Daethpwyd o hyd i gytref fach o’r sbigynnau blodau gwyn hufennog ar Gors Fochno, cyforgors fawn o fri rhyngwladol rhwng y Borth ac aber Afon Dyfi, a rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Dyfi.

Gwnaethpwyd y darganfyddiad ddiwedd mis Gorffennaf gan Justin Lyons, aelod o staff CNC, wrth iddo wirio'r Merlod Mynydd Cymreig a ddefnyddir i bori caeau corsiog o amgylch y gyforgors.

Dywedodd Mike Bailey, Uwch Swyddog - Rheoli Tir CNC:

“Mae tegeirianau gwyllt yn adnabyddus am wasgaru dros bellter hir a blodeuo anrhagweladwy, mae ganddyn nhw gyfnod blodeuo byr o ganol Gorffennaf i fis Awst, ac nid yw'n blodeuo bob blwyddyn, felly mae hwn yn ddarganfyddiad rhyfeddol.
“Er bod ganddo ddosbarthiad eang yng ngogledd America, yn Ewrop mae'r tegeirian wedi'i gyfyngu i nifer fach o safleoedd yng ngogledd-orllewin yr Alban ac Iwerddon. Mae wedi diflannu o’i unig safle hysbys yn Lloegr - yn Nyfnaint - ac wedi dirywio mewn mannau eraill. ”

Ar sail astudiaethau genetig, mae arbenigwyr yn credu y gallai'r rhywogaeth fod wedi cytrefu yn Iwerddon o hadau tebyg i lwch a chwythwyd ar draws Môr yr Iwerydd, felly gall hadau a gariwyd gan y gwynt gyfrif am y tegeirianau sydd bellach yn ymddangos yng Ngheredigion. 

CNC sy'n rheoli Cors Fochno ac mae'r corff bellach yn ystyried y ffordd orau i alluogi pobl leol ac ymwelwyr i weld y tegeirianau'r haf nesaf, wrth gynnal y pori a diogelu'r gytref rhag difrod anfwriadol.

Mae Cors Fochno yn un o saith o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) cyforgorsydd iseldir yng Nghymru lle mae gwaith adfer cyforgorsydd wedi'i ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru ar y gweill ar hyn o bryd.

Nod Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw amddiffyn storfeydd carbon pwysig y cyforgorsydd, ailddechrau tyfiant mawn a chynnal eu bioamrywiaeth ryfeddol. 

Mae'n debyg mai'r troellig Wyddelig fydd y rhywogaeth brin fwyaf nodedig o blith llawer ar Gors Fochno, sy'n cynnwys cytrefi da o degeirianau llydanwyrdd bach, migwynnau prin a gwlithlysiau. Mae llawer o infertebratau prin fel Gwrid y gors (rhywogaeth y credwyd ar un adeg ei bod wedi diflannu o Brydain), gweirlöyn mawr y waun a chriciedyn hirgorn y gors hefyd yn ffynnu ar y warchodfa.

Dywedodd Sue Parker o’r Hardy Orchid Society:

“Mae'r darganfyddiad cyffrous hwn yn enghraifft arall eto o'r buddion niferus y mae Cymru yn eu cael o'r buddsoddiad parhaus yn rheolaeth briodol ein Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol.”