Arwyddion bod mawndir gwlyb wedi cyfyngu llediad tanau gwyllt!

Mae tanau gwyllt diweddar yng nghanolbarth Cymru wedi amlygu manteision sylweddol adfer mawndiroedd, gyda mawndir a ail-wlychwyd ger Llyn Gorast, Coedwig Tywi, wedi cyfyngu llediad y tân.
Mae asesiad cychwynnol o safle Llyn Gorast wedi datgelu bod ardaloedd lle roedd mawndir wedi ei adfer a'i ail-wlychu yn gallu gwrthsefyll y tanau yn llawer gwell. Yn wahanol i'r mawn a'r pridd llosg o amgylch, sylwyd bod pyllau gwyrdd lle roedd mwsogl migwyn wedi aildyfu wedi gweithredu fel parthau atal tân naturiol, gan gyfyngu ar ledaeniad y tân ar draws y dirwedd.
Mae’r canlyniad hwn yn dangos ymhellach werth ymdrechion adfer o dan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn 2023, cwblhawyd gwaith adfer ar ran o safle Llyn Gorast, a oedd yn cynnwys adeiladu argaeau a byndiau cyfuchliniau i godi lefelau dŵr a lleihau erydiad. Mae'r camau hyn yn hanfodol i adfer safleoedd mawndir sydd wedi erydu'n sylweddol.
Mae mawndiroedd iach, wedi'u hail-wlychu, fel y rhai yn Llyn Gorast, yn cynnal twf mwsogl migwyn gwlyb, sy'n amsugno hyd at 20 gwaith ei bwysau mewn dŵr. Mae cadw lleithder fel hyn yn helpu i atal lledaeniad tanau gwyllt. Mewn cyferbyniad, gall mawndiroedd sydd wedi'u difrodi gael eu cytrefu gan laswellt Molinia, sy'n hynod fflamadwy pan fydd yn sych, gan gynyddu'r risg o dân.
Eglurodd Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:
Fe wnaethon ni anfon un o’n harbenigwyr mawndiroedd i asesu effaith y tân ar safle Llyn Gorast sydd wedi’i ail-wlychu ac roedd y newyddion yn gadarnhaol. Mae'n ymddangos bod y pyllau gwlyb wedi gweithredu fel rhwystr, gan atal y tân rhag lledu. Mae lluniau hefyd yn dangos sut y cafodd safle cyfagos, a glustnodwyd ar gyfer adfer yn y dyfodol, ei losgi'n ulw, tra bod y safle a oedd eisoes wedi'i adfer yn dal i fod yn fawndir gweithredol. Gallai bywyd gwyllt hefyd fod wedi dod o hyd i gysgod rhag y gwres yn y pyllau hyn wrth i’r tân losgi gerllaw.
Mae mawndiroedd yn gorchuddio dim ond 4% o Gymru ond eto’n storio 30% o’n carbon tir. Yn anffodus, mae 90% o fawndir Cymru wedi'i ddifrodi ar hyn o bryd, felly mae angen ei ddiogelu a'i adfer cyn gynted â phosibl. Bydd gostyngiad o ran glawiad dros yr haf, a ddisgwylir oherwydd newid yn yr hinsawdd, yn gwneud mawndiroedd sydd wedi’u difrodi hyd yn oed yn fwy tebygol o fynd ar dân. Mae hyn yn golygu bod ail-wlychu mawndir, fel ger Llyn Gorast, yn gam gweithredu pwysig i helpu tirweddau mawndir i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Yn rhaglen bum mlynedd i ddechrau, cwblhaodd y Rhaglen Mawndiroedd ei thargedau, sef adfer 3,000 hectar o fawndir, 12 mis yn gynnar. Bydd y Rhaglen lwyddiannus nawr yn cael ei hehangu i ddiogelu a chyflymu’r gwaith i adfer mawndiroedd, a helpu i gefnogi targedau Sero Net Cymru. Gellir dod o hyd i ddata ar fawndir a'r gwaith i’w adfer, gan gynnwys y safle yn Llyn Gorast (canol), ar Fap Data Mawndiroedd Cymru.