Ceffylau yn cefnogi adfer bioamrywiaeth Coedwig Dyfi trwy dynnu coed

Little Ron yn tynnu coeden wedi ei dorri yn y Goedwig

Mae dau geffyl gweithgar, Bill a Little Ron, wedi bod yn cefnogi ymdrechion cadwraeth yng Nghoedwig Dyfi, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ger Ceinws.

O dan arweiniad gofalus coedwigwr ceffylau arbenigol, mae'r Cobiau y Sipsi (Gypsy Cob) cadarn hyn wedi cael eu defnyddio i dynnu coed wedi’u cwympo, dull coedwigaeth traddodiadol sy'n symud coed wedi'u cwympo heb fawr o effaith amgylcheddol. Mae defnyddio’r dull yma mewn ardaloedd sensitif yn lleihau cywasgiad pridd ac yn lleihau'r risg o lygredd silt mewn nentydd cyfagos.

Trodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) at ddefnyddio ceffylau i dynnu coed fel rhan o'i waith i wella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd yn yr ardal ecolegol sensitif hon. Gan weithio mewn shifftiau i sicrhau eu bod yn cael seibiannau rheolaidd, dangosodd Bill a Little Ron - dan arweiniad eu perchennog a choedwigwr ceffylau arbenigol, Kevin Taylor - fod y dechneg hon yn parhau i fod yn offeryn gwerthfawr mewn coedwigaeth a chadwraeth fodern.

Cafodd coed ffawydd eu cwympo i gefnogi lledaeniad coed derw brodorol, sydd â chanopi ysgafnach. Mae coed derw yn caniatáu i fwy o olau haul gyrraedd llawr y goedwig, gan annog mwy o amrywiaeth o blanhigion i ffynnu. Cafodd y coed eu cwympo ar ôl i swyddog CNC weld bod ardaloedd o dan goed derw yn cynnal amrywiaeth gyfoethocach o blanhigion o gymharu ag ardaloedd o dan goed ffawydd.

Drwy gael gwared ar rywfaint o ffawydd, mae CNC yn helpu i adfer cydbwysedd ecolegol y coetir a gwella amrywiaeth planhigion. Bydd y pren wedi'i dorri yn cael ei werthu am danwydd pren.

Dywedodd Lauren Kirk, Swyddog Adfer Bioamrywiaeth CNC: "Mae'n hynod werth chweil gweld dulliau traddodiadol fel defnyddio cefyllau i dynnu coed wedi’u cwympo yn chwarae rhan wrth adfer ein mannau naturiol. Trwy leihau aflonyddwch, rydym yn rhoi'r cyfle gorau i blanhigion coetir a bywyd gwyllt ffynnu.
"Mae'r gwaith hwn yn helpu i wella cysylltedd cynefinoedd. Mae hyn yn golygu gwella amodau rhwng gwahanol gynefinoedd ar draws tirweddau ac yn helpu rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid i ledaenu a thyfu."

Mae'r gwaith hwn yn rhan o Raglen Rhwydweithiau Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cefnogi'r gwaith o reoli rhwydweithiau ecolegol ledled Cymru, gan gynnwys adfer cynefinoedd a theneuo coetiroedd. Drwy ddefnyddio technegau coedwigaeth gynaliadwy, mae CNC yn sicrhau bod coetiroedd Cymru yn parhau i fod yn wydn i genedlaethau'r dyfodol.