Adweithydd Modiwlaidd Bach Holtec International yn cwblhau cam cyntaf yr asesiad dylunio

Mae’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear (yr ONR), Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn symud ymlaen i gam nesaf eu hasesiad o ddyluniad Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) Holtec International.

Mae'r broses, a elwir yn Asesiad Dyluniad Generig (GDA, sef Generic Design Assessment), yn galluogi'r rheoleiddwyr i ddechrau asesu agweddau diogelwch ac amgylcheddol ar ddyluniadau adweithyddion newydd cyn i gynigion safle-benodol gael eu cyflwyno.

Dechreuodd Cam 1 y GDA ym mis Hydref 2023 gan ganolbwyntio ar gytuno ar gwmpas ac amserlen Cam 2, ac mae’r cam hwn bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus. Mae heddiw yn nodi dechrau’r asesiad sylfaenol o’r dyluniad (Cam 2) y disgwylir iddo bara am 14 mis.

Mae cytuno ar gwmpas y GDA drwy gydol Cam 1 wedi’i seilio ar wybodaeth a ddarparwyd gan Holtec i’r rheolyddion fel y gallant gynnal asesiad ystyrlon o’r dyluniad.

Mae Holtec wedi cwblhau'r holl ofynion ar gyfer Cam 1 o ganllawiau'r rheolyddion, a gwnaed cynnydd da wrth ddatblygu ei drefniadaeth a threfniadau i gefnogi’r GDA.

Mae Holtec bellach wedi lansio proses sylwadau ar ei wefan newydd, sy'n galluogi unrhyw un i gyflwyno sylwadau a chwestiynau am ddyluniad yr adweithydd i'r cwmni i gael ei ymateb. Bydd materion perthnasol a godwyd yn ystod y broses sylwadau, ac ymatebion Holtec i’r materion hyn, yn cael eu defnyddio i helpu i lywio asesiadau’r rheoleiddwyr drwy weddill y broses GDA.

Dywedodd Tim Parkes, Pennaeth Rheoleiddio Diogelwch yr ONR ar gyfer Uwch-dechnolegau Niwclear a GDA’r Holtec SMR-300:

“Mae’r GDA yn rhan hanfodol o sicrhau bod cynlluniau adweithyddion newydd yn bodloni’r safonau uchel o ddiogelwch, diogeledd a gwarchodaeth amgylcheddol sy’n ofynnol ym Mhrydain Fawr.
“Ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, rydym wedi gweld Holtec yn dangos parodrwydd i symud i Gam 2 o’r asesiad lle gallwn ddechrau’r asesiadau technegol o’r adweithydd.
“Trwy gydol Cam 1 mae Holtec wedi bod yn ymbaratoi’n drefniadol i gwblhau’r GDA ac rydym wedi bod yn cytuno ar y cwmpas ar gyfer ein hasesiad yng Ngham 2.
“Rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o ddyluniad generig SMR-300 a fydd yn ein galluogi i gynnal asesiad ystyrlon trwy gydol Cam 2.
“Diogelwch fydd ein prif flaenoriaeth bob amser, ond rydym wedi ymrwymo i reoleiddio mewn ffordd nad yw’n rhwystro datblygiadau technolegol - oni bai bod cyfiawnhad llawn i ni wneud hynny.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Chomisiwn Rheoleiddio Niwclear yr Unol Daleithiau ynghylch cydweithredu posibl a chyfnewid gwybodaeth ar adolygu ac asesu dyluniad SMR-300.”

Dywedodd Saffron Price-Finnerty, Rheolwr Rhaglen Adweithyddion Newydd Asiantaeth yr Amgylchedd:

“Rydym yn asesu pa mor dderbyniol yn amgylcheddol yw dyluniad Adweithydd Modiwlaidd Bach newydd Holtec International, cwmni sydd wedi'i leoli yn yr Unol Daleithiau, gan weithio gyda Holtec Britain sy'n rheoli'r broses o gyflawni'r GDA yn y Deyrnas Unedig. Mae Holtec Britain wedi gweithio'n galed i dyfu'r cwmni'n ddigonol i allu rheoli a chyflawni'r prosiect yn effeithiol.
“Yn y cam nesaf, bydd ein tîm o aseswyr arbenigol yn nodi unrhyw faterion neu bryderon sydd gennym gyda'r dyluniad, a byddant yn gweithio gyda'r cwmni i wneud yn siŵr ei fod yn deall ein disgwyliadau i sicrhau bod cymunedau a'r amgylchedd yn cael eu diogelu.
“Yn ystod Cam 1, rydym wedi astudio trefniadau, cynlluniau a pharodrwydd y cwmni ar gyfer Cam 2 ac wedi dysgu mwy am ddyluniad yr adweithydd. Yn ein datganiad Cam 1 rydym wedi crynhoi’r hyn rydym wedi edrych arno ac wedi dod i’r casgliad y gallwn symud ymlaen i Gam 2 y GDA, lle byddwn yn dechrau ein hasesiad sylfaenol. Rydym hefyd wedi cytuno ar gwmpas y GDA ac rydym yn fodlon bod pob un o'r prif systemau o safbwynt amgylcheddol a rheoli gwastraff wedi'u cynnwys o fewn cwmpas yr asesiad.
“Rydym wedi ymrwymo i dryloywder a gweithio gydag eraill. “Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid yn bwysig i ni. Dau gam sydd i’r GDA hwn - nid yw’r amserlen yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, felly mae'n bwysicach fyth i bobl gymryd rhan yn y broses sylwadau, sy'n dechrau heddiw.
“Gallwch adolygu’r wybodaeth ar wefan y cwmni a rhoi eich sylwadau - sy’n cael eu gweld gan y rheoleiddwyr.” 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhan o’r broses GDA pan fo posibilrwydd y gellid defnyddio’r adweithydd dan sylw yng Nghymru a bydd yn arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru.

Dywedodd Paul Gibson, Arweinydd Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear ar yr Asesiad Dyluniad Generig ar gyfer yr Holtec International SMR-300. 
“Gan ein bod bellach wedi cyrraedd diwedd Cam 1, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid wrth i’r prosiect symud ymlaen i asesiad sylfaenol o’r dyluniad yng Ngham 2.”

Mae proses y GDA yn canolbwyntio ar ddyluniad gorsaf ynni niwclear generig ac nid yw'n benodol i safle. Mae'n broses wirfoddol, nad yw'n orfodol, gyda'r nod o roi hyder cynnar y gellir adeiladu, gweithredu a datgomisiynu dyluniad adweithydd arfaethedig yn unol â’r safonau uchel o ran diogelwch, gwarchod yr amgylchedd a rheoli gwastraff sy’n weithredol ym Mhrydain Fawr.

Mae’r GDA yn broses hyblyg gyda hyd at dri cham. Daw'r asesiad yn fwyfwy manwl gyda phob cam. 

Bydd Cadarnhad o Dderbyn Dyluniad (DAC, sef Design Acceptance Confirmation) neu Ddatganiad o Dderbynioldeb Dyluniad (SoDA, sef Statement of Design Acceptability) gan yr ONR a'r rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y drefn honno, yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd Cam 3 o'r GDA, a hynny os yw'r dyluniad yn bodloni'r mesurau diogelwch cadarn a’r safonau uchel o ran diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff a ddisgwylir gan ein fframweithiau rheoleiddio.

Gan fod Holtec yn destun GDA dau gam ar gyfer ei ddyluniad SMR-300, ni fydd DAC na SoDA yn cael eu cyhoeddi, a bydd ein hasesiad yn dod i ben ar ddiwedd Cam 2. Wedyn ar ddiwedd Cam 2 bydd y rheoleiddwyr yn cyhoeddi Datganiad GDA, yn nodi lefel eu hyder o ran a ellir adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r dyluniad SMR-300 ym Mhrydain Fawr mewn modd sy’n ddiogel ac yn amddiffyn pobl a’r Amgylchedd.

Y GDA hwn yw’r cyntaf i orffen ar ddiwedd Cam 2. Pe bai’r cwmni’n dymuno parhau â’i gynlluniau i adeiladu adweithydd modiwlaidd bach yng Nghymru neu Loegr, bydd cyfnod pellach o asesiad dylunio manwl yn cael ei gynnal gan y rheoleiddwyr, naill ai fel rhan o Gam 3 yn y dyfodol neu fel rhan o ddatblygiad safle-benodol.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Ddatganiad Diwedd Cam 1 yr ONR, a Datganiad Diwedd Cam 1 ar y cyd Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru (

Am fwy o wybodaeth, ewch i:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut rydym yn rheoleiddio safleoedd niwclear (naturalresources.wales)

Holtec Britain Generic Design Assessment

https://www.onr.org.uk/generic-design-assessment/