Helpu busnesau i amddiffyn Afon Alun rhag llygredd
Mae busnesau sydd wedi'u lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol Llai wedi cael cefnogaeth i helpu i atal llygredd rhag cyrraedd Afon Alun sydd gerllaw.
Ddydd Iau 6 Tachwedd, ymwelodd swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â sawl uned ar draws yr ystâd i gynnig cyngor ymarferol ar sut i leihau risgiau llygredd a gwella arferion amgylcheddol.
Nod yr ymweliadau oedd helpu busnesau i weld peryglon llygredd posibl a deall pa gamau y gallant eu cymryd i atal digwyddiadau. Rhoddodd swyddogion arweiniad hefyd ar drwyddedau amgylcheddol lle bu angen.
Mae Nant Singrett yn rhedeg drwy'r ystâd ac yn y pen draw yn llifo i Afon Alun – un o lednentydd allweddol Afon Dyfrdwy. Yn anffodus, mae'r nant wedi cael ei heffeithio gan sawl digwyddiad llygredd, a achosir yn aml gan ollyngiadau damweiniol neu gysylltiadau draenio anghywir o safleoedd diwydiannol cyfagos.
Mae Afon Dyfrdwy wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), ac yn cael ei chydnabod am ei bioamrywiaeth gyfoethog gan gynnwys rhywogaethau fel eogiaid, pennau lletwad, lampreiod, dyfrgwn, ac amrywiaeth o blanhigion ac infertebratau.
Mae hefyd yn ffynhonnell hanfodol o ddŵr yfed. Oherwydd hyn, mae'r ardal o amgylch yr afon – gan gynnwys Ystâd Ddiwydiannol Llai – yn rhan o Barth Diogelu Dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae hyn yn golygu bod rhaid rheoli a storio rhai sylweddau yn ofalus, ac efallai y bydd angen caniatâd ar eu cyfer.
Dywedodd Elizabeth Felton, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Wrecsam:
“Gall llygredd o ystadau diwydiannol ddigwydd yn rhy hawdd – boed drwy ollyngiadau, damweiniau, neu hyd yn oed fandaliaeth. Gall y digwyddiadau hyn niweidio bywyd gwyllt a pheri risgiau i iechyd pobl.
“Drwy ymweld â busnesau ar yr ystâd, rydym yn eu helpu i gymryd camau ymarferol i atal llygredd a diogelu’r amgylchedd lleol.
“Rydym am godi ymwybyddiaeth o’r effaith y gall llygredd ei chael ar afonydd fel Afon Alun a chefnogi busnesau i wneud eu rhan i gadw ein dŵr yn lân ac yn ddiogel.”