Glaw trwm i achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl fod yn effro i lifogydd posibl gan fod disgwyl i law trwm effeithio ar y De a’r Canolbarth heno a dros nos i mewn i ddydd Iau (12 Ionawr).
Bydd rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd am law trwm ar draws y rhan fwyaf o Gymru yn dod i rym o 9pm heno tan 5pm ddydd Iau, gyda disgwyl i lawer o law ddisgyn ar draws y De a’r Canolbarth, yn enwedig yn ardaloedd dwyreiniol y Cymoedd.
Gallai’r lefelau uchel o law arwain at lifogydd dŵr wyneb gyda glaw yn disgyn ar dir sydd eisoes yn llawn dŵr. Mae hefyd risg o lifogydd o afonydd sydd eisoes wedi chwyddo yn dilyn y cyfnod diweddar o dywydd gwlyb iawn.
Mae timau ymateb CNC yn bresennol ar safleoedd allweddol, ac wrthi’n gwirio bod amddiffynfeydd yn gweithio'n dda, a sicrhau bod unrhyw gridiau a sgriniau draenio yn glir er mwyn lleihau'r risg i bobl a'u cartrefi.
Bydd CNC yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau penodol ac mae’n annog pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw effeithiau posibl ar eu hardaloedd drwy fynd i wefan CNC.
Dywedodd Kelly McLauchlan, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC:
“Mae’r glaw trwm a ragwelir yn debygol o achosi problemau a tharfu mewn rhannau o’r De a’r Canolbarth dros nos ac i mewn i yfory, felly rydym yn cynghori pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf rwy rybuddion llifogydd ar gyfer eu hardaloedd.
“Mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i wneud paratoadau ac i leihau unrhyw risgiau posibl i gymunedau.
“Rydym yn gofyn i bobl wirio eu perygl llifogydd ar ein gwefan - sydd hefyd ag ystod o wybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y gall pobl ei wneud i baratoi ar gyfer llifogydd posibl.
“Cofiwch fod llifddwr yn hynod beryglus, ac ni ddylai pobol geisio cerdded na gyrru drwyddo oni bai fod y gwasanaethau brys yn eu cyfarwyddo i wneud hynny.”
Gall pobl wirio eu perygl llifogydd yn ôl cod post, darganfod y rhybuddion llifogydd diweddaraf, a gwirio Lefelau Glawiad, a Lefelau Afonydd a’r Môr ar wefan CNC.
Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar ein gwefan. Mae’r rhain ar gael yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd
Gallwch hefyd gael y diweddaraf am lifogydd yn eich ardal drwy ffonio’ r Llinell Llifogydd ar 0345 988 118.