Gwaith ymchwilio tir i’w gynnal yn Aberteifi i gyfarwyddo Cynllun Llifogydd Llanwol
Ym mis Mawrth bydd gwaith yn dechrau a fydd yn llywio cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer y dyfodol, a’i nod fydd lleihau'r perygl o lifogydd arfordirol i drigolion Aberteifi, yng Ngorllewin Cymru.
Bydd trigolion Aberteifi a rhai sy’n ymweld â’r ardal yn gweld offer drilio yn ardal Y Strand yn y dref ac ar bontŵn yn Afon Teifi wrth i gontractwyr sy'n gweithio ar ran CNC wneud gwaith ymchwilio tir ym mis Mawrth ac Ebrill 2022.
Bydd yr wybodaeth a gesglir o ganlyniad i’r gwaith hwn yn caniatáu i CNC ddysgu mwy am natur y tir yn yr ardal a bydd yn helpu i roi gwybodaeth ynglŷn â pha fath o gynllun peirianneg sy'n briodol ar gyfer y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanw Aberteifi arfaethedig.
Bydd y gwaith ymchwilio tir yn golygu drilio tri thwll turio yn ardal Y Strand yn y dref ger yr afon, a chwech arall yn yr afon ei hun.
Ni ddisgwylir i'r gwaith gael unrhyw effaith negyddol ar y dref nac ar yr afon.
Meddai Paul Isaac, Swyddog Gweithredol Prosiectau CNC ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi:
"Fel unrhyw strwythur arall, rhaid adeiladu Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi ar sylfeini addas. Bydd y gwaith ymchwilio hwn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o amodau'r tir yn yr ardal ac i lywio'r gwaith o werthuso a dylunio'r cynllun.
"Rydym yn disgwyl i'r gwaith effeithio cyn lleied ag sydd bosibl ar bobl y dref, er y bydd y trigolion efallai’n gweld y rig drilio yn y dref, ac ar bontŵn yn yr afon ei hun tra bydd ein contractwyr yn cwblhau'r tyllau turio ar gyfer ymchwilio."
Nod Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi yw lleihau'r perygl o lifogydd yn y dref a chymuned Aberteifi o ganlyniad i lifogydd llanwol ac ar yr un pryd rhoi ystyriaeth i’r cynnydd a ragwelir yn lefel y môr. Mae’n anelu hefyd at gynnal a gwella'r amgylchedd naturiol.
Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cynllun gan Fwrdd Rheoli Perygl Llifogydd CNC yng Ngwanwyn 2021. Roedd hyn yn rhoi'r gymeradwyaeth ariannol i symud ymlaen tuag at gam dylunio manwl y cynllun.