Golau gwyrdd ar gyfer pori ar fawndiroedd pwysig Sir Benfro
Mae prosiect i adfer saith ardal o fawndir yng Nghymru wedi llwyddo i osod cymaint ag 16km o ffensys ar safleoedd yn Sir Benfro, a fydd yn galluogi pori diogel a chynaliadwy ar 280 hectar o dir comin.
Mae pori’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal y tirweddau hyn drwy atal lledaeniad llystyfiant goresgynnol sy’n gallu boddi’r ardaloedd ble mae mwsoglau hanfodol y gors yn ffynnu ac yn ffurfio’r mawn hollbwysig.
Mae’r prosiect pum mlynedd gwerth £5 miliwn, Corsydd Crynedig LIFE, sydd wedi’i gyllido gan EU LIFE a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei weithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Corsydd Crynedig LIFE yn canolbwyntio ar y cynefinoedd mignenni pontio a chorsydd crynedig – a gafodd eu henw am fod y ddaear, yn llythrennol, yn crynu dan draed.
Mae 4% o dir Gymru yn fawndir sy’n cynnwys 30% o’n carbon tir. Fodd bynnag, mae 90% o fawndir Cymru â statws cadwraeth “anffafriol”, ac mae hynny’n golygu bod nwyon tŷ gwydr niweidiol yn cael eu rhyddhau.
Mae prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn ymgymryd ag amrywiaeth o gamau i adfer y cynefin mewn saith Ardal Cadwraeth Arbennig ar draws Cymru – ymysg y safleoedd yn Sir Benfro mae Comins Gogledd-orllewin Sir Benfro ger Tyddewi a Gweunydd Blaencleddau ger Mynachlog-ddu.
Meddai Vicky Squire, swyddog prosiect Corsydd Crynedig LIFE ar gyfer Sir Benfro:
Am fod y safleoedd hyn wedi’u tan-bori dros y blynyddoedd, mae llawer o’r planhigion bach ond pwysig sy’n creu mawn wedi’u mygu gan lystyfiant goresgynnol a glaswelltiroedd cryfach. Bydd pori yn gwella cyflwr cyffredinol y safleoedd ac yn cynnig lloches i greaduriaid di-asgwrn-cefn fel gwyfynod, gweision y neidr, mursennod a gloÿnnod byw – y mwyaf nodedig o’r rhain ydy britheg y gors, sy’n rhywogaeth ddangosol allweddol o fawndir iach.
Mae’r mwyafrif helaeth o’r ffensys wedi’u gosod ar Gomin Dowrog, safle yn Sir Benfro sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Dywedodd Nathan Walton, Rheolwr Gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru:
Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn arbennig o ddiolchgar am y prosiect drwy gyllid LIFE a’r cyfle hwn i weithio gyda phartneriaid, tirfeddianwyr preifat a chominwyr. Bydd y ffensys newydd a threfn bori well yn galluogi gwell rheolaeth ar y tir comin drwy symud da byw o gwmpas yr ardal a hybu twf blodau gwyllt – mae yna 350 o rywogaethau o’r rhain wedi’u cofnodi ar y safle.
Mae Corsydd Crynedig LIFE yn gweithio gyda thirfeddianwyr, ffermwyr a chominwyr i hybu a galluogi pori cynaliadwy ar holl safleoedd y prosiect.
Dywedodd Mark Evans, porwr a dyn busnes lleol:
Dydyn ni ddim wedi rhoi gwartheg ar y tir hwn ers bron i 40 mlynedd, ond fe gawson ni gyfle i ffensio 20 erw o rostir ac ry’n ni’n edrych ymlaen at bori ein gwartheg yno er mwyn, gobeithio, cynyddu bioamrywiaeth yr ardal leol.
Gwyliwch y fideo byr hwn o’r gwaith sydd wedi’i wneud yn Sir Benfro:
Corsydd Crynedig LIFE – Ffensio ar Gomin Dowrog, Sir Benfro (youtube.com)
Dilynwch yr hanes am adfer mawndiroedd yn Sir Benfro ac ar safleoedd eraill Corsydd Crynedig LIFE ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y prosiect ‘LIFE Quaking Bogs’ ac ar dudalen we’r prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru / Corsydd Crynedig LIFE