Adweithydd Modiwlaidd Bach GE-Hitachi yn cwblhau cam cyntaf yr asesiad dylunio
Heddiw, cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn symud ymlaen i Gam 2 o’u Hasesiad Dyluniad Generig (ADG) o ddyluniad adweithydd BWRX-300 GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (GE-Hitachi).
Mae’r broses yn galluogi rheoleiddwyr i ddechrau asesu agweddau diogelwch ac amgylcheddol dyluniadau gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn gynnar yn y broses reoleiddio a rhoi hyder y gellir adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r dyluniadau newydd hyn yng Nghymru a Lloegr.
Mae ffocws y rheoleiddwyr yn ystod Cam 1, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024, wedi bod ar sicrhau bod y trefniadau, y prosesau a’r cyflwyniadau angenrheidiol ar waith i gychwyn Cam 2 yr ADG, a bod cwmpas ac amserlen y cytunwyd arni ar gyfer asesiad technegol o ddyluniad adweithydd BWRX-300 GE-Hitachi yn eu lle. Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, mae’r rheoleiddwyr yn fodlon bod GE-Hitachi wedi dangos ei fod yn barod i symud ymlaen i Gam 2.
Yn ystod Cam 2, bydd gweithgarwch rheoleiddio’n cael ei dargedu ar asesu digonolrwydd sylfaenol dyluniad y BWRX-300 i’w ddefnyddio yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn ystyried addasrwydd y methodolegau, y dulliau, y codau, y safonau a’r athroniaethau a nodwyd gan GE-Hitachi yn yr achosion diogelwch, diogeledd ac amgylcheddol generig ar gyfer sicrhau caniatâd a thrwyddedau rheoleiddio yn y dyfodol.
Dywedodd Saffron Price-Finnerty, Rheolwr Rhaglen Adweithyddion Newydd Asiantaeth yr Amgylchedd:
"Mae ein tîm Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd gyda GE-Hitachi i gyflawni carreg filltir fawr gyntaf yr ADG o ran dyluniad yr adweithydd modiwlaidd bach BWRX-300 ac rydym bellach yn barod i symud o Gam 1, Cychwyn, i Gam 2, Asesiad Sylfaenol.
"Yn ystod Cam 2, bydd ein tîm medrus a phrofiadol yn asesu hanfodion sylfaenol y BWRX-300, gan gynnwys nodi unrhyw faterion neu bryderon penodol o ran diogelu’r amgylchedd.
"Rwy'n ddiolchgar am waith caled ein tîm a gwaith GE-Hitachi i gyrraedd y garreg filltir hon. Rydym yn croesawu menter GE-Hitachi o gymryd agwedd wirioneddol ryngwladol at weithio tuag at un cynllun ar gyfer defnydd byd-eang. Byddwn yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill i weld beth y gellir ei gyflawni tra'n sicrhau bod pobl a'r amgylchedd yn cael eu hamddiffyn.
"Gall pobl gymryd rhan drwy'r broses sylwadau cyhoeddus y bu'n ofynnol i GE-Hitachi ei sefydlu. Mae’r wefan newydd yn darparu gwybodaeth ynghylch y dyluniad er mwyn i bobl roi sylwadau a gofyn cwestiynau. Bydd GE-Hitachi yn ymateb i'r holl sylwadau a chwestiynau perthnasol, a bydd y rheoleiddwyr yn defnyddio hyn, lle bo’n berthnasol, i lywio ein gwaith asesu ein hunain."
Dywedodd Rob Exley, Pennaeth Rheoleiddio’r ONR ar gyfer dyluniad BWRX-300 GE-Hitachi:
“Bydd Cam 2 yr ADG yn nodi dechrau asesiad technegol yr ONR o'r adweithydd BWRX-300, lle byddwn yn archwilio cyflwyniadau GE-Hitachi sy’n nodi pam ei fod yn credu y gellir defnyddio ei gynllun generig yn ddiogel ym Mhrydain Fawr.
“Byddwn hefyd yn ceisio adeiladu ar ein partneriaeth gydweithredol gyda Chomisiwn Rheoleiddio Niwclear yr UDA a Chomisiwn Diogelwch Niwclear Canada. Rydym yn gwbl gefnogol i uchelgais GE-Hitachi i gynnal dyluniad adweithydd safonol heb fawr ddim newidiadau o ran dyluniad rhwng un wlad a’r llall.
"Gan fod ein holl sefydliadau yn adolygu'r un dyluniad yn ei hanfod ochr yn ochr, mae'r ONR wedi ymrwymo i archwilio'r holl gyfleoedd ar gyfer rheoleiddio mwy effeithlon, rhannu mewnwelediadau a gwybodaeth, ystyried cyflwyniadau a dadansoddiadau cyffredin, a galluogi GE-Hitachi i gynnal dyluniad cyffredin gymaint ag y bo modd."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd rhan yn yr ADG lle mae'r cwmni sy'n dylunio'r orsaf ynni niwclear yn cynghori y gellid cynnig ei ddyluniad ar gyfer ei adeiladu yng Nghymru.
Dywedodd Paul Gibson, Arweinydd Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Wrth i’r prosiect symud ymlaen i Gam 2 (Asesiad Sylfaenol), byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid rheoleiddio, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, ar ADG BWRX-300 GE-Hitachi.”
Mae GE-Hitachi wedi lansio gwefan ADG newydd lle mae'n cyhoeddi gwybodaeth fanwl am ei ddyluniad a phroses sylwadau cyhoeddus. Mae'r broses sylwada cyhoeddus yn galluogi unrhyw un i gyflwyno sylwadau a chwestiynau am ddyluniad yr adweithydd i'r cwmni i glywed ei ymateb. Mae rheoleiddwyr yn gweld y cwestiynau a’r ymatebion, a, lle bo’n berthnasol, yn defnyddio’r rhain i helpu i lywio eu hasesiadau drwy weddill y broses ADG.
Mae’r ADG hwn yn cael ei reoli yn y DU gan GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC (Cangen y DU) sef y Parti sy’n Gwneud Cais (RP). GE Vernova Inc, yw rhiant-gwmni GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC yn y pen draw, sy'n goruchwylio dyluniad yr adweithydd.
Mae GE-Hitachi yn cael rhywfaint o'i gyllid ar gyfer ei gostau ei hun a chostau rheoleiddwyr yr ADG hwn o raglen Cronfa Galluogi Niwclear y Dyfodol y Llywodraeth. Ar wahân, maent wedi'udewis gan Great British Nuclear i symud ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth adweithydd modiwlaidd bach i nodi technolegau i'w cynnwys yn rhaglen niwclear y DU.
Gwnaeth GE-Hitachi gais am ADG dau gam y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2025. Wedyn ar ddiwedd Cam 2, bydd y rheoleiddwyr yn cyhoeddi Datganiadau ADG Cam 2, yn nodi lefel eu hyder o ran a ellir adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r dyluniad yng Nghymru a Lloegr mewn modd sy’n ddiogel ac yn amddiffyn yr amgylchedd.
Ni chyhoeddir unrhyw Gadarnhad o Dderbyn y Dyluniad (DAC) na Datganiad o Dderbynioldeb y Dyluniad (SoDA) ar ddiwedd y rhaglen waith y cytunwyd arni ar hyn o bryd.
Os bwriedir adeiladu BWRX-300 GE-Hitachi ar gyfer ei adeiladu yng Nghymru neu Loegr yna byddai angen i'r rheoleiddwyr gynnal cyfnod pellach o asesu’r dyluniad yn fanwl. Byddai angen hyn cyn y gallai gwaith adeiladu o bwys o ran diogelwch ddechrau a chyn cwblhau'r drwydded amgylcheddol. Gellid gwneud hyn ar sail generig gyda GE-Hitachi os yw'n dewis dychwelyd i ADG i gwblhau Cam 3, neu gyda thrwyddedai neu weithredwr datblygiad safle-benodol.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Ddatganiad Diwedd Cam 1 yr ONR, a Datganiad Diwedd Cam 1 ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Gallwch hefyd fynd i wefan ADG GE-Hitachi.