Perygl llifogydd yn arwain at wacáu parc preswyl yn Nhrefynwy
Diweddariad aml-asiantaethol, 9:00am, 29/10/2019: Gwacáu pobl o Barc Preswyl Riverside.
Mae preswylwyr a gafwyd eu gwacáu ddoe (28 Hydref) o Barc Preswyl Riverside yn Nhrefynwy wedi cael gwybod bellach y gallant ddychwelyd adref.
Mae lefel yr Afon Gwy ar hyn o bryd ychydig dros 5.1m, o'i gymharu â 5.9m yn ei hanterth neithiwr, ac mae'n parhau i ostwng.
Mae’n bellach yn ddiogel i bobl ddychwelyd ac maen nhw’n dychwelyd yn araf ac mae Cyngor Sir Fynwy yn eu cefnogi i wneud hyn. Mae'r Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â phreswylwyr drwy gydol y digwyddiad i'w helpu i'w cadw'n ddiogel.
Buodd swyddogion Heddlu Gwent ar y safle i roi'r gefnogaeth a sicrwydd i bobl drwy gydol y nos.
Mae'r cynnydd mewn malurion ger y bont yn Nhrefynwy yn cael ei fonitro ond mae dŵr yn parhau i lifo ac nid yw'n cynyddu'r perygl o lifogydd. Bydd gweithwyr ymateb brys o Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda Chyngor Sir Fynwy, yn symud y malurion pan fydd lefel yr afon wedi gostwng ymhellach ac mae'n ddiogel i wneud hynny.
Mae'r digwyddiad bellach wedi cau, a'r ffocws nawr fydd cefnogi'r preswylwyr wrth iddynt ddychwelyd i'w cartrefi.
Er bod rhagor o law ar ei ffordd, ni ragwelir y bydd yr un mor drwm â dros y penwythnos ac ni ragwelir y byddai hyn yn achosi unrhyw broblemau llifogydd, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro'r sefyllfa'n agos rhag ofn i hyn newid.
12:00pm, 28 Hydref 2019.
Gofynnir i bobl sy'n byw mewn parc preswyl yn Nhrefynwy i adael ei cartrefi oherwydd bod lefelau'r afon yn codi a llifddŵr yn dod i mewn i'r safle.
Mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynghori trigolion Parc Preswyl Riverside i adael eu cartrefi oherwydd y perygl o lifogydd, lefelau’r afon yn codi a'r angen i wacáu cyn i’r sefyllfa droi'n achub mewn argyfwng.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn darparu cludiant o'r parc i Neuadd y Sir yng nghanol Trefynwy, lle y sefydlwyd canolfan orffwys dros dro.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer afon Gwy yn Nhrefynwy ac mae lefel uchel yr afon wedi sbarduno ymateb aml-asiantaeth i wacáu pobl o'r parc yn ystod yr amodau o’r fath.
Dywedodd Tim England, rheolwr gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydyn ni'n gweithio gyda Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy i wacáu pobl yn ddiogel o'r parc preswyl.
"Mae glaw trwm diweddar ar draws De Cymru yn achosi i lefel yr Afon Gwy yn Nhrefynwy i godi a bydd yn parhau i godi am yr ychydig oriau nesaf.
"Efallai fod y glaw wedi cilio, ond mae lefelau rhai afonydd yn dal i godi wrth i’r lefelau uchaf symud i lawr yr afon. Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i wirio ein gwefan ar gyfer rhybuddion llifogydd yn eu hardal a gwrando ar unrhyw gyngor a roddir ar y camau i'w cymryd."
I wirio rhybuddion llifogydd mewn grym ac am wybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd