Tynnu’r gored fawr gyntaf fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru, LIFE Afon Dyfrdwy, sy’n werth miliynau o bunnoedd, wedi cyrraedd ei garreg filltir gyntaf, er mai dim ond y mis diwethaf y lansiwyd y prosiect uchelgeisiol.
Heddiw [dydd Sadwrn 24 Hydref], i ddathlu Dydd Rhyngwladol Ymfudiad Pysgod, mae’r prosiect wedi cyhoeddi ffilm fer i ddangos y gwaith o dynnu’r gored o Afon Tryweryn, un o lednentydd Afon Dyfrdwy. Mae’r ffilm yn tynnu sylw at bwysigrwydd tynnu rhwystrau i bysgod sy’n ymfudo, a’r manteision ehangach sy’n dod yn ei sgil i’r amgylchedd.
Gwnaed y gwaith i ddymchwel y gored segur ar Afon Tryweryn gan gontractwyr lleol profiadol, ar y cyd ag arbenigwyr technegol CNC, er mwyn tynnu’r strwythur artiffisial a gwella mynediad i bysgod.
Symudwyd cerrig mawr o’r gored i ddarparu cynefinoedd ac ardaloedd silio pwysig ar gyfer yr amrywiaeth o rywogaethau sy’n byw yn yr afon, ac fe’u defnyddiwyd hefyd i sefydlogi gwely’r afon.
Yn ôl Gethin Morris, Uwch Swyddog Adfer Afonydd y prosiect:
“Roedd y gored yn rhwystr ffisegol i bysgod oedd yn ymfudo, yn enwedig ar adeg llif isel yn y gwanwyn, pan welid niferoedd mawr o eogiaid ifanc yn ymgasglu uwchlaw’r gored wrth iddyn nhw geisio ymfudo i’r môr. Mae unrhyw oedi fel hyn yn lleihau’r tebygolrwydd y gall y pysgod hyn oroesi a dychwelyd i silio yn y dyfodol. Drwy dynnu’r gored o gerrig mawr oddi yno, mae wedi gwella amgylchiadau’n syth i’r pysgod sy’n ymfudo yn Afon Tryweryn.
“Dyma garreg filltir gyntaf ragorol i’r prosiect, a llwyddwyd i gwblhau’r holl waith yn brydlon cyn i eogiaid aeddfed ddechrau silio yn Afon Tryweryn dros y gaeaf. Fydden ni ddim wedi gallu cyflawni hyn heblaw am gefnogaeth y gymuned leol, y tirfeddiannwr a’r contractwyr, yn ogystal â’n partneriaid yn y prosiect.”
Ychwanegodd Dafydd Roberts, Uwch Ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn hynod o falch o fod yn bartner mewn prosiect mor uchelgeisiol â LIFE Afon Dyfrdwy. Yn hanesyddol mae llawer o afonydd yng Nghymru wedi eu haddasu’n sylweddol ac yn aml yn cael effaith negyddol na ragwelwyd ar yr amgylchedd naturiol.
“Mae dadwneud rhai o achosion y problemau presennol a geir yn nalgylch Afon Dyfrdwy yn hanfodol i adferiad gweithrediad yr afon a’r llu o fuddion cysylltiedig i ecosystemau a phobl.”
Dyma’r gored gyntaf i gael ei datgymalu’n llawn yn y prosiect, a bydd 10 cored arall yn y dalgylch yn cael eu haddasu dros y pedair blynedd nesaf.
Meddai Oliver Lowe, Geomorffolegydd Afonol gyda CNC:
“Mae datgymalu strwythurau artiffisial fel coredau’n galluogi prosesau naturiol yr afon i ymadfer. Bydd y prosesau hyn yn creu’r ffurf a’r swyddogaethau naturiol sy’n hanfodol o ran cynnal ecosystem amrywiol.
“Mae dymchwel coredau’n adfer y ‘cludfelt’ dyddodion naturiol sy’n symud ar hyd afon gan reoli siâp coridor yr afon ar ei hyd. Yn ei thro mae ffurf coridor yr afon yn helpu rhywogaethau i addasu a dygymod ag eithafion newid yn yr hinsawdd, drwy ddarparu swyddogaethau naturiol fel ocsigenu a rheoli tymheredd.
“Felly, drwy dynnu coredau, byddwn ni’n helpu i adfer a chynnal y cynefinoedd eithriadol amrywiol hyn sydd o fudd i’r ecosystem gyfan; o ddarparu graean yn sianel yr afon sy’n rhoi lle i greaduriaid di-asgwrn-cefn fyw ac i bysgod silio, i goed cysgodol ar y glannau lle gall gleision y dorlan a dyfrgwn chwilota am fwyd.”
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Ymfudiad Pysgod ar 24 Hydref, fel dathliad byd-eang i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd afonydd agored a’r pysgod ymfudol arbennig sy’n byw ynddyn nhw.
Ariennir prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn hael gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Dŵr Cymru/Welsh Water, a bydd yn parhau tan fis Rhagfyr 2024.
I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i dudalen we’r prosiect, dilynwch @LIFEAfonDyfrdwy ar y cyfryngau cymdeithasol neu e-bostiwch y tîm: lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk