Ffensys yn sicrhau manteision i ddalgylch afon

Bydd gwaith yn nalgylch Conwy Uchaf yn helpu i atal glan afon rhag erydu, yn hybu bioamrywiaeth ac yn gwella’r dulliau o reoli da byw ac ansawdd dŵr.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi codi 560 metr o ffensys ar dir fferm â thenantiaid ar eiddo Cymryd yr Ymddiriedolaeth, ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Aber Afon Conwy.

Bydd gosod ffensys pedwar metr i mewn i'r tir yn caniatáu lle i blannu coed er mwyn cryfhau glan yr afon sy'n cael ei herydu gan Afon Conwy, ac ar yr un pryd yn creu coridor o gynefin coetir ar gyfer adar a mamaliaid gan gynnwys ystlumod pedol lleiaf prin.

Yn ogystal â lleihau'r gwaddod yn y dŵr a achosir gan erydiad y glannau bydd yn atal da byw rhag pori ger y dŵr, gan leihau'r maetholion sy'n mynd i mewn i'r afon a gwella ansawdd y dŵr.

Bydd adfer morfa heli hefyd yn caniatáu i fwy o ddŵr gael ei storio ar y cae yn ystod adegau o lanw uwch cynyddol.

Gwnaed y gwaith fel rhan o Brosiect Uwch Conwy, sy’n ceisio darparu buddion i gymunedau a bywyd gwyllt dalgylch Conwy Uchaf trwy greu amgylchedd glanach ac iachach, gan ddod â phobl a natur yn nes at ei gilydd.

Meddai Sarah Aubrey, aelod o dîm Amgylchedd Conwy CNC:

“Rydym yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r tenantiaid ar y prosiect hwn.

“Mae gan y prosiect lu o fanteision, ac mae’n gwella ansawdd dŵr sy’n lles i boblogaethau pysgod ac yn rhoi hwb i ystlumod pedol lleiaf, sy’n rhywogaeth o bwys o ran cadwraeth. Bydd y coridor hwn o gynefin yn cysylltu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coed Benarth â phoblogaethau ystlumod yn Gorse Hill.

“Mae’r gwaith hwn yn ychwanegu at brosiect Uwch Conwy sydd wedi gweld ystod eang o waith yn cael ei wneud i adfer safleoedd naturiol pwysig i gyflwr ffafriol ac adfer tirwedd ucheldir amrywiol, cysylltiedig a chadarn.”

Meddai Dewi Davies o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Hoffwn ddiolch i’n ffermwyr tenant am gydweithio â ni ar y rhan hon o dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae eu cefnogaeth wedi caniatáu inni gymryd camau ystyrlon i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

"Trwy ddiogelu ac adfywio cynefin naturiol, nid yn unig ydym ni’n cyfrannu at yr amgylchedd ond hefyd yn cynorthwyo busnesau ffermio i wella terfynau ar gyfer rheoli da byw.”