Gwaith cwympo coed llarwydd heintiedig wedi dechrau yng Nghwm Rhaeadr
Mae rhaglen waith wedi dechrau i gael gwared o goed llarwydd heintiedig o goedwig yng Nghwm Rhaeadr, ger Llanymddyfri.
Er mwyn cadw ymwelwyr y goedwig yn ddiogel yn ystod cam cyntaf y gwaith cwympo, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cau’r llwybr beicio mynydd a rhannau eraill o’r goedwig i gerddwyr a beicwyr mynydd.
Wrth i’r gwaith cwympo symud i ardaloedd eraill o’r goedwig, byddwn yn dargyfeirio a chau llwybrau yn eu trefn. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd rhannau o’r llwybr beicio mynydd yn cael eu hailagor.
Bydd arwyddion clir yn dangos y dargyfeiriadau a pha lwybrau fydd wedi cau.
Meddai James Tinney, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Dydyn ni ddim yn hoffi cau mynediad i'n coedwig, gan ein bod yn gwybod pa mor werthfawr yw hi i bobl leol ac i feicwyr mynydd, ond yn yr achos hwn, dyma'r ateb mwyaf diogel i ganiatáu i'r gwaith fynd yn ei flaen heb oedi.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y bydd y gwaith yn aflonyddu gyn lleied ag sydd bosibl ar bethau, a phan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny, byddwn yn ailagor rhannau o'r goedwig wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
"Mae clefyd y llarwydd wedi cael effaith ddramatig ar ein coedwigoedd yng Nghymru. Mae'n anffodus ein bod yn gorfod cwympo coed, ond mae hynny'n rhoi cyfle inni wella'r goedwig ar gyfer y dyfodol."
Mae'r coed wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn glefyd llarwydd fel arfer. Yn 2013, nododd arolygon fod y clefyd yn lledaenu'n gyflym drwy goedwigoedd yng Nghymru, a thaniodd hyn strategaeth genedlaethol i gael gwared â choed heintiedig i'w atal rhag lledu ymhellach.
Mae CNC yn cyflawni’r gwaith mewn camau ac yn rhagweld y bydd y gwaith yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau.
Bydd angen cwympo tua 40 hectar o goed llarwydd – sy'n cyfateb yn fras i 40 o gaeau rygbi. Mae CNC yn gofyn i bobl beidio â defnyddio llwybrau sydd wedi cau a dilyn arwyddion a dargyfeiriadau er eu diogelwch eu hunain. Gall peidio â gwneud hynny olygu oedi yn y gwaith a gohirio dyddiad ailagor y goedwig.