Gwaith cwympo ac ailblannu coed yn dechrau yng Nghoedwig Llantrisant

Coedwig ar fryn gyda adeildau yn y blaendir

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau llwyrgwympo ardal o goed yng Nghoedwig Llantrisant, sy’n cael ei henwi yn lleol fel ‘Coed Garthmaelwg neu Smaelog’ ac sy’n boblogaidd ymysg cerddwyr a beicwyr mynydd.

Bydd y gwaith cwympo a chael gwared o’r coed conwydd o ardal 6.4 hectar yng nghanol y goedwig yn dechrau yn gynnar ym mis Medi ac mae disgwyl iddo gymryd hyd at chwe mis i’w gwblhau.

Mae'r coed, sy'n gymysgedd o sbriws Sitca, ffynidwydd Douglas a llarwydd croesryw, yn cael eu cwympo gan eu bod o’r oedran cywir i'w cynaeafu i'w gwerthu fel pren, a chan fod rhai coed peryglus wedi cael eu chwythu gan y gwynt hefyd yn yr ardal.

Unwaith y bydd y gwaith cwympo wedi'i orffen, bydd yr ardal yn cael ei hailblannu'n bennaf â chonwydd, ond bydd rhai coed llydanddail brodorol hefyd yn cael eu plannu ochr yn ochr â Nant Cwm-du, sy'n llifo ar hyd ymyl yr ardal lle bydd y gwaith cwympo yn digwydd.

Bydd y pren yn cael ei bentyrru ar y safle cyn cael ei gludo oddi yno gan lorïau. Bydd y lorïau yn defnyddio llwybr yn y de allan o'r maes parcio ac yn teithio ar hyd ffordd y goedwig tuag at yr A473.

Bydd llwybr Hawl Tramwy Cyhoeddus sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r ardal gwympo yn cael ei gau yn ystod y gwaith. Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn y goedwig i roi gwybod i ymwelwyr bod llwybrau ar gau ac am y dargyfeiriadau.

Meddai Richard Phipps, Uwch Swyddog - Gweithrediadau Coedwig:

“Mae llawer o rannau o’r coedwigoedd rydyn ni’n eu rheoli ledled Cymru yn cael eu tyfu ar gyfer pren masnachol. Plannwyd y llannerch hon o gonwydd yng Nghoedwig Llantrisant 46 mlynedd yn ôl ac mae'n barod i'w chynaeafu.
“Er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel yn ystod y gwaith, byddwn yn cau rhai llwybrau a gofynnwn i ymwelwyr ddilyn yr holl arwyddion sydd ar y safle a chadw cŵn ar dennyn o amgylch yr ardal lle bydd y gwaith gwympo yn digwydd.
“Rydym yn ymwybodol bod Coedwig Llantrisant yn boblogaidd ymysg beicwyr mynydd, a bod llawer o lwybrau answyddogol ledled y goedwig. Byddwn yn gweithio gyda'r gymuned beicio mynydd i reoli'r llwybrau sy'n agos at yr ardal dorri coed a'r llwybr cludo.
“Byddwn yn ceisio cyfyngu’r effaith ar ymwelwyr gymaint ag sydd bosib, ond ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel. Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad."

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gellir cysylltu â thîm Gweithrediadau Coedwig Canolbarth De Cymru CNC drwy ffonio 03000 65 3000 neu anfon e-bost at enquiries@naturalresourceswales.gov.uk