Rhyddhau rhagor o ddŵr i’r Afon Gwy i frwydro yn erbyn tymheredd eithafol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyblu faint o ddŵr sy’n cael ei ryddhau i Afon Elan o gronfa ddŵr Caban Coch i liniaru effaith lefelau dŵr isel a thymheredd uchel ar y stoc bysgod yn ystod y tywydd poeth a ragwelir ar gyfer dechrau’r wythnos nesaf.
Bydd y dŵr yn cael ei ryddhau o’r storfa ddŵr wrth gefn yng Nghwm Elan a fydd yn bwydo’r Afon Gwy. Mae’r storfa ddŵr yn gyfleuster penodol sy’n storio dŵr at ddibenion rheoli afonydd.
Meddai Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae diogelu afonydd Cymru a’r bywyd gwyllt sy’n ddibynnol arnynt yn un o’r pethau pwysicaf yr ydym ni’n ei wneud.
“Gall cyfnodau hir o dywydd sych, sy’n arwain at ostwng lefelau dwr mewn afonydd, effeithio’n andwyol ar iechyd a lles stociau pysgod, gan fod llai o ddŵr i’r pysgod fyw ynddo. Mae hynny yn ei dro yn achosi gorboblogi a gwneud y pysgod yn agored i glefydau a phlâu.
“Ac mae tywydd poeth a llachar hefyd yn cynyddu’r risg o ordyfiant algâu, sydd yn ei dro yn achosi i bysgod farw.
“Er mwyn helpu i leihau’r effaith ar boblogaethau pysgod Afon Gwy, gan gynnwys y stoc o eogiaid, mae CNC ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Dŵr Cymru wedi penderfynu rhyddhau mwy o ddŵr i’r afon.”
Bydd y broses o ryddhau’r dŵr, a ddechreuodd brynhawn Gwener ac a fydd yn para tan ddydd Llun, yn cymryd tri diwrnod i gyrraedd rhannau isaf yr Afon Gwy, gan olygu y bydd dŵr ychwanegol oerach yn cyrraedd y rhannau isaf pan fo’r tymheredd ar ei uchaf.
Bydd rhyddhau’r dŵr am gyfnod byr yn sicrhau bod y storfa yn cadw digon o ddŵr rhag ofn y bydd mwy o dywydd eithafol yn digwydd dros yr haf.
Ychwanegodd Ann:
“Byddwn yn monitro llwyddiant yr ymyrraeth i helpu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch rheoli afonydd yn addasol.
“Gall gwres eithafol a llif isel achosi niwed mawr i’r stoc bysgod, ond mae'n rhaid i ni ystyried ein camau gweithredu’n ofalus er mwyn lleihau’r effaith.
“Er enghraifft, gall symud pysgod i leoliad arall achosi straen sylweddol ar y pysgod, a gallai achosi mwy o farwolaethau na pheidio â’u symud o gwbl.
“Oherwydd hynny, mae’n rhaid i ni drin pob achos yn unigol a chymryd camau priodol lle bo angen.
“Mae’r argyfwng hinsawdd yn digwydd nawr, a gallwn ddisgwyl gweld mwy o ddigwyddiadau eithafol fel hyn yn y dyfodol.
“Lle bo’n bosibl, byddwn yn gweithredu i liniaru’r effeithiau, ond mae angen i bob un ohonom wneud mwy i wneud ein hecosystemau’n fwy gwydn.”
Meddai Chris Bainger o Asiantaeth yr Amgylchedd:
“Mae’n ffodus bod offer monitro wedi’i osod ar yr Afon Gwy o ganlyniad i’n ffocws presennol ar yr afon, ac mae hynny yn ein galluogi i gasglu data ansawdd dŵr. Mae hyn yn darparu data amser real a bydd yn ein galluogi i fonitro’r ymyriadau hyn yn ogystal â’n cynorthwyo i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd fel hyn.”