Cefnogaeth ychwanegol i ymwelwyr â safle gwarchodedig poblogaidd
Mae wardeniaid tymhorol yn helpu i ddiogelu un o safleoedd naturiol pwysicaf Cymru yr haf hwn.
Bydd dau warden, a gyflogir gan y Sea Watch Foundation, wedi’u lleoli yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn tan fis Medi, gan gefnogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Byddant yn ymgysylltu â’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o adar sydd wrthi’n nythu, lleihau’r perygl o dân, lleihau sbwriel, lleihau aflonyddwch i famaliaid ac adar morol yn sgil cychod, a rhannu gwybodaeth am y safle a’i fywyd gwyllt yn gyffredinol.
Ariennir y swyddi trwy Llwyddo'n Lleol 2050 gan uwchsgilio pobl leol fel rhan o brosiect ARFOR sy'n cefnogi cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg.
Bydd y wardeniaid ar y safle saith diwrnod yr wythnos, yn bennaf ar Ynys Llanddwyn.
Elusen forol yw’r Sea Watch Foundation sy’n gweithio i warchod morfilod, dolffiniaid, a llamidyddion (sef porpoises yn Saesneg) yn nyfroedd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Dywedodd Jenny Bond, o’r elusen:
“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â CNC, a Thîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.
“Niwbwrch yw un o safleoedd natur arfordirol pwysicaf Cymru ac mae yno un o systemau twyni tywod gorau Ewrop. Mae hefyd yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr ac yn cael ei drysori gan bobl leol oherwydd ei harddwch naturiol a'i arwyddocâd diwylliannol.
“Ynghyd â'n partneriaid rydym yn teimlo ei bod yn bwysig lleihau effaith ymwelwyr er mwyn caniatáu i fywyd gwyllt a chynefinoedd ffynnu. Bydd gallu cadw llygad ar y dŵr yn rheolaidd hefyd yn helpu ein hymchwil i famaliaid morol ym Mae Caernarfon ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gymryd rhan yn ein gwaith casglu data.”
Dywedodd Graham Williams, o Dîm Rheoli Tir CNC:
“Mae Niwbwrch yn safle o arwyddocâd rhyngwladol o ran bioamrywiaeth ac yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru o ran twyni - sy’n cynnal amrywiaeth o degeirianau, amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebratau prin.
“Mae gweithio i amlygu a diogelu natur a bywyd gwyllt y safle yn rhan fawr o’n gwaith rheoli.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Sea Watch Foundation i helpu i ledaenu’r neges am fod yn gyfrifol tra byddwch yn ymweld. Mae hyn yn golygu dilyn canllawiau ar gyfer mynd â’ch cŵn am dro, mynd â’ch sbwriel adref, a pheidio â chynnau tân na barbeciw.”
Dywedodd Kinga Niedzinska, o Dîm Cefn Gwlad ac AHNE Cyngor Sir Ynys Môn:
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r wardeniaid. Bydd eu presenoldeb yn Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn rhan annatod o warchod a gwella’r lle arbennig hwn sy’n cael ei werthfawrogi gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Mae'r dolffin trwyn potel, rhywogaeth sydd angen gwarchodaeth arbennig, yn yr ardal yn aml a gallwch roi gwybod am ei weld trwy'r ap Seawatch neu 07393482771.