Parth dan waharddiad i atal difrod ar safle gwarchodedig

Bydd parth dan waharddiad yn cael ei gyflwyno am chwe mis ar safle gwarchodedig ar Ynys Môn i frwydro’n erbyn difrod a achosir yn bennaf gan weithgareddau antur.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi caniatáu parth dan waharddiad, yn dilyn cais gan yr RSPB, ar ran 1.8 milltir o hyd ar yr arfordir rhwng 15 Mawrth a 15 Medi 2025.

Mae'n cynnwys rhan o Gomin Penrhosfeilw, sydd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Glannau Ynys Gybi, ar dir a brydleswyd i'r RSPB gan Gyngor Sir Ynys Môn, sy'n rhan o Warchodfa Natur Ynys Lawd.

Roedd y cais yn ymateb i gynnydd yn y difrod a achoswyd gan weithgareddau antur masnachol nad oedd y tirfeddiannwr na'r deiliad wedi eu caniatáu ar y tir.

Gall aelodau’r cyhoedd ddal i gerdded ar hyd y safle cyfan ar Lwybr Arfordir Cymru ac nid oes unrhyw newid i fynediad ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau dynodedig.

Bydd y parth yn helpu i warchod rhywogaethau o adar prin, bywyd gwyllt mewn perygl a’r amgylchedd rhag difrod a achosir gan niferoedd cynyddol sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau fel croesi clogwyni môr ac arfordira, sy’n cynnwys archwilio arfordiroedd creigiog trwy ddringo, neidio, a nofio, yn ystod y tymor bridio adar. 

Ni chaniateir y gweithgareddau hyn heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu’r deiliad, ac mae’r RSPB wedi rhoi cynnig ar fentrau o’r blaen i’w rhwystro rhag digwydd ar yr adeg anghywir o’r flwyddyn ac yn yr ardal anghywir.

Bydd parth dan waharddiad Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) yn cynnwys tir mynediad agored o Lwybr Arfordir Cymru i’r môr, ac ni chaniateir mynediad heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu’r deiliad.

Meddai Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:

“Bydd y parth dan waharddiad yn atal aflonyddu ar adar Atodlen 1 a warchodir sy’n bridio megis brain coesgoch a hebogiaid tramor, morloi a bywyd gwyllt prin arall gan gynnwys gloÿnnod byw gleision serennog.

Roeddem o'r farn bod y cais hwn yn un rhesymol oherwydd effaith gweithgareddau na chaniateir gan y tirfeddianwyr na meddiannydd y tir ar fywyd gwyllt yn ogystal â'r difrod a achosir i ddaeareg y SoDdGA hwn e.e. aflonyddu ar gennau gwarchodedig a bolltio llwybrau dringo o amgylch y rhan hon o'r arfordir.

“Nid yw’r parth gwaharddedig hwn yn atal y gweithgareddau hyn rhag digwydd mewn mannau eraill a byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor i amlygu lle y gellir eu cynnal heb darfu ar fywyd gwyllt a rhywogaethau sydd mewn perygl.

“Byddwn yn monitro’r hyn sy’n digwydd trwy gydol y cyfnod gwahardd ac yn adolygu’r sefyllfa ar ôl y cyfnod o chwe mis.”

 Meddai Laura Kudelska, Uwch Reolwr Safle RSPB Ynys Lawd:

“Mae Comin Penrhosfeilw yn enghraifft brin o gynefin rhostir arfordirol; mae’n llecyn anhygoel ar gyfer amrywiaeth eang o adar, planhigion a phryfed.

“Mae hefyd yn fregus ac yn agored iawn i niwed. Mae’r lefel gynyddol o weithgareddau ger ogofâu, ar glogwyni ac ar y gweundir arfordirol yn achosi aflonyddwch annerbyniol i fywyd gwyllt, yn enwedig i’r frân goesgoch sy'n bwydo ac yn nythu yma.

“Rydym yn croesawu cyflwyno’r parth dan waharddiad chwe mis a’n gobaith yw y bydd hyn yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt prin Comin Penrhosfeilw yn ogystal ag annog mwy o frain coesgoch i fridio yma.” 

Ychwanegodd Andy Godber, Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol Cyngor Ynys Môn:

“Rydym yn cydnabod yr angen am gydbwyso gwarchod bywyd gwyllt a gweithgareddau hamdden awyr agored a’r heriau sydd ynghlwm wrth hynny.

“Tra bod y brydles yn caniatáu i’r RSPB wneud penderfyniadau o’r fath yn annibynnol, byddem yn annog deialog bellach gyda’r sector awyr agored, yn ystod ac ar ôl y cyfnod prawf, i weld a oes modd dod o hyd i ateb ymarferol.”