Dedfrydu Dŵr Cymru am lygru amgylchedd gwarchodedig Gwastadeddau Gwent

Yn dilyn erlyniad llwyddiannus a gychwynnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £90,000 am ddigwyddiadau llygredd niferus ar Wastadeddau Gwent, a £160,000 pellach am ddigwyddiad ar lednant o’r Afon Llwyd.

Gorchmynnwyd i'r cwmni hefyd dalu costau a gordal o £18,320.77.

Ar 13 Chwefror 2025, plediodd y cwmni’n euog i bedwar cyhuddiad o ollwng carthion i’r amgylchedd yn groes i’w drwydded amgylcheddol.

Rhwng 24 Ionawr 2023 ac 11 Ionawr 2024, mynychodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth a oedd yn effeithio ar gwrs dŵr o’r enw ‘back ditch’ ger y morglawdd ym Magwyr.

Gwelodd y swyddogion garthion mewn mwy nag un lleoliad, yn byrlymu drwy’r tir ac yn mynd i mewn i’r cwrs dŵr.

Yn ystod y digwyddiad yn 2024, gwelodd swyddogion garthion yn cael eu pwmpion anghyfreithlon gan Dŵr Cymru i’r forfa heli, o fewn y cynefin gwarchodedig sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn safle Ramsar.

Achoswyd y digwyddiadau hyn gan doriad mewn pibell ar linell garthffosiaeth arfordir y de-ddwyrain. Canfu samplau a gasglodd y swyddogion fod lefelau amonia yn sylweddol uwch na’r trothwy o 1.1mg/L ar gyfer SoDdGA.

Er bod atgyweiriadau wedi’u gwneud i’r bibell a oedd wedi’i difrodi, mynychodd swyddogion ddigwyddiadau niferus o garthion yn gollwng i’r cwrs dŵr ym mis Mawrth a mis Mai 2023, ac eto ym mis Ionawr 2024. Roedd y rhain yn ymwneud â thoriadau pellach yn yr un bibell.

Mewn digwyddiad arall a glywyd ac a gyhuddwyd yn y llys yr un pryd, ym mis Chwefror 2023, derbyniodd CNC adroddiad am ddigwyddiad llygredd ar wahân, lle’r oedd carthion yn mynd i mewn i lednant o Afon Lwyd, yng Nghoed Herbert, Pontnewynydd – lleoliad poblogaidd i fynd â chŵn am dro.

Ar ôl rhywfaint o gamgyfathrebu ar y cychwyn gan Dŵr Cymru ynghylch lleoliad a difrifoldeb y digwyddiad, llwyddodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod o hyd i’r ffynhonnell tua 400m i fyny’r afon, mewn gollyngiad o siambr garthffos fudr.

Roedd y carthion i’w gweld uwchlaw’r ddaear ac ar hyd tua 400m o’r llednant hyd at ei chymer ag Afon Lwyd. Roedd ffwng carthion trwchus ac arogl cryf yn bresennol, a awgrymai fod y llygredd wedi bod yno ers cryn amser.

Dywedodd John Rock, Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer de-ddwyrain Cymru:
“Am dros flwyddyn, cofnododd ein swyddogion batrwm o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth niferus yn yr un ardal, yn effeithio ar gynefin dan lefel uchel o warchodaeth sy’n gyforiog o blanhigion a bywyd gwyllt, gan gynnwys morfa heli.
“Dro ar ôl tro cawsom ein sicrhau bod yr atgyweiriadau angenrheidiol wedi’u gwneud, ond roedd y llygredd yn parhau.
“Yn ogystal ag achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd lleol, cawsom fod ymateb Dŵr Cymru i’r digwyddiadau yn annigonol. Roedd y cyfathrebu’n wael ar adegau, ac roedd oedi diangen i’w gweithdrefnau ymateb i ddigwyddiadau fel pwmpio a chludo’r llygredd ymaith, a allai fod wedi lleihau’r effaith.
“Er bod y ddirwy a roddodd y llys heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiadau, rydym yn siomedig bod pethau wedi dod i hyn – na chymerwyd camau cryfach i atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd dro ar ôl tro mewn amgylchedd mor sensitif. Byddwn bob amser yn pwyso am ymyrraeth gynnar ac atal niwed amgylcheddol cyn erlyn.”

Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a gasglodd y dystiolaeth a dwyn yr erlyniad hwn yn erbyn Dŵr Cymru.

Mae lefel y ddirwy am droseddau amgylcheddol yn cael ei phennu gan y llysoedd ac yn seiliedig ar lefel y difrod, beiusrwydd, a modd ariannol y diffynyddion.