Adfer gwlyptiroedd mewn twyni i gefnogi rhywogaethau sydd mewn perygl
Mae cyfres o brosiectau cadwraeth ac adfer ar y gweill yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.
Bydd y gwaith, sy'n cwmpasu mwy na phedwar hectar i gyd, yn hyrwyddo ac yn diogelu amrywiaeth o fywyd gwyllt ar y safle rhyngwladol bwysig ac mae wedi creu ardaloedd bridio newydd ar gyfer rhywogaethau prin.
Mae pedair ardal o laciau isel yn y twyni a’r llethrau sych o’u cwmpas wedi cael eu hadfywio ar Dywyn Niwbwrch ac ym Mhant Canada a Phant y Fuches yn y goedwig.
Gwnaed y gwaith gan Twyni Byw, sef prosiect a ariennir gan yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ym mis Hydref a mis Tachwedd.
Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw ar gyfer CNC:
“Rydym wedi ymgymryd â'r prosiectau adfer hyn i ddiogelu bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth.
“Mae'r gwaith hwn wedi adfer llaciau’r twyni creiriol drwy gael gwared ar lystyfiant trwchus, creu ardaloedd o dywod moel ac ail-greu gwlyptir. Mae'r cynefinoedd arloesol hyn yn hynod o fioamrywiol ac yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt bregus a phrin y twyni.”
Ym Mhant Canada, mae ardaloedd o dywod moel, pwll a gwlyptir mwy naturiol wedi'u creu ar gyfer rhywogaethau prin gan gynnwys madfallod dŵr cribog, gweision y neidr a mursennod, gwenyn turio ac infertebratau yn ogystal â blodau gwyllt a mwsoglau arbenigol y twyni.
Ymestynnwyd glaswelltir o ansawdd uchel yn llaciau’r twyni ym Mhant y Fuches, a fydd yn cefnogi llawer o rywogaethau planhigion gan gynnwys tegeirianau rhuddgoch a’r galdrist.
Yn Nhywyn Niwbwrch, adfywiwyd llaciau isel a llethrau sych yn y twyni mewn dau leoliad ar ochr y môr trwy ostwng gwaelod llaciau’r twyni a chreu pwll newydd.
Cyn i'r gwaith ddigwydd, cynhaliodd ecolegwyr arolygon i sicrhau na fyddai’n tarfu ar fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch.
Symudwyd madfall ddŵr gribog fenyw llawn dwf ac un ifanc ynghyd â madfallod dŵr palfog, madfallod dŵr cyffredin, brogaod, llyffantod a madfallod i gynefin addas gerllaw.
Ychwanegodd Kathryn:
“Bydd yr amffibiaid a'r ymlusgiaid hyn bellach yn gaeafgysgu a phan fyddant yn deffro, byddant yn dod o hyd i fannau bridio newydd sbon ychydig fetrau i ffwrdd.
“Mae diogelu ac adfer ardaloedd bioamrywiol fel y rhain yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ehangach.
“Pan fyddwn yn colli bioamrywiaeth, rydym yn rhoi ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a'n hymdeimlad o le mewn perygl felly mae adfer natur o fudd i bawb.”