Amheuaeth o bla cimwch yr afon ger Llanfair-ym-Muallt: Annog y cyhoedd i aros allan o Afon Irfon

Cimwch Afon Crafanc Wen yn cael ei ddal ger afon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl aros allan o Afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt fel rhagofal ar ôl dod o hyd i lawer o gimychiaid yr afon marw, o bosib oherwydd bla cimwch yr afon.

Ar noson 28 Mehefin, derbyniodd CNC sawl adroddiad am gimychiaid yr afon marw yn yr afon. Fe wnaeth swyddogion ymchwilio a dod o hyd i gimychiaid marw ar hyd tua thair milltir o'r afon. Nid oedd unrhyw arwyddion amlwg o lygredd, ac roedd creaduriaid eraill yr afon yn ymddangos yn iawn, gan arwain swyddogion i amau pla cimwch yr afon. Mae samplau wedi'u casglu a’u hanfon i'w profi, ac mae CNC yn disgwyl canlyniadau'r wythnos nesaf (yr wythnos sy'n dechrau 8 Gorffennaf).

Mae'r clefyd ond yn farwol i gimychiaid yr afon ac nid yw’n effeithio ar bobl, anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt arall. Mae'n cael ei ledaenu gan gimychiaid anfrodorol ymledol, fel y Cimwch Afon Arwyddol.

Fel rhagofal, mae CNC yn gofyn i'r cyhoedd osgoi mynd i mewn i Afon Irfon. Mae pla cimwch yr afon yn lladd cimychiaid ac yn lledaenu'n hawdd o un afon i'r llall, hyd yn oed heb fawr o gyswllt. Er enghraifft, os bydd ci yn mynd i mewn i'r afon heintiedig ac yn mynd i afon arall yn ddiweddarach, gallai ledaenu'r clefyd.

Pwysleisiodd Jenny Phillips, Arweinydd Tîm Amgylchedd De Powys CNC bwysigrwydd cadwraeth y Cimwch Afon Crafanc Wen:
"Mae dalgylch Gwy, gan gynnwys Afon Irfon, yn gynefin allweddol i'r Cimwch Afon Crafanc Wen. Mae'r rhywogaeth hon mewn perygl, gyda'r niferoedd yn gostwng 50-80% yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd cimychiaid afon estron a phla cimwch yr afon.
"Mae'r Cimwch Afon Crafanc Wen brodorol yn un o'r rhesymau pam y mae Afon Gwy wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig felly mae'n hanfodol ein bod yn cyfyngu ar ledaeniad y pla i amddiffyn poblogaethau lleol eraill.
"Trwy aros allan o'r afon, gallwn helpu i atal lledaeniad y clefyd hwn a diogelu'r creaduriaid gwerthfawr hyn."

Mae'r Cimwch Afon Crafanc Wen yn hanfodol i'n ecosystem ac yn dynodi afonydd iach, glân. Bydd cymryd y camau hyn yn helpu i sicrhau goroesiad y rhywogaeth hon sydd mewn perygl ac yn cynnal iechyd dalgylch Gwy.