Dyn o Lwynhendy yn cael dirwy gan y llys am gasglu cocos yn anghyfreithlon
Gŵr o Lwynhendy yn Llanelli wedi cael dirwy o £1,032 am gasglu cocos yn anghyfreithlon ym Mhysgodfa Gocos Cilfach Tywyn.
Cafodd Terry Royston Butchers, 64 oed, ei alw i ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ar ddydd Gwener, 31 Ionawr, 2020.
Cyfaddefodd ei fod ar wedi cymryd cocos byw o'r ardal drwyddedig ar ddau achlysur ac nad oedd wedi cydymffurfio â chyfarwyddiadau gan swyddog gorfodi.
Cafodd ddirwy o £240 a gorchmynnwyd iddo dalu costau cyfreithiol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sef cyfanswm o £760, yn ogystal â £32 o gostau llys.
Yn ystod patrôl gyda’r nos ar 29 Mehefin 2019, cafwyd hyd iddo yn ceisio symud sachau o gocos o'i feic cwad i gerbyd 4x4.
Rhoddodd fanylion ffug a cheisiodd ddianc sawl gwaith. Cafodd ei atal gan swyddogion CNC a chyda cymorth Heddlu Dyfed-Powys llwyddwyd i ganfod pwy oedd mewn gwirionedd .
Cafodd ei offer casglu cocos ei atafaelu a gorchmynnwyd iddo roi'r holl gocos byw yn ôl yn y gwelyau cocos.
Meddai Andrea Winterton, Rheolwr Gwasanaethau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Nid yn unig mae casglu cocos yn anghyfreithlon yn niweidio bywoliaeth pobl, ond gall achosi niwed difrifol i gynefin cocos ac i gynaliadwyedd y boblogaeth gocos.
“Mae ein swyddogion gorfodi yn gweithio'n galed, yn aml mewn amgylchiadau anodd, i fynd i'r afael â chasglu cocos yn anghyfreithlon. Mae'n rhan hanfodol o'n rheolaeth ofalus o'r gwelyau cocos."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli'r diwydiant casglu cocos yng Nghilfach Tywyn er mwyn cynnal y cydbwysedd cynnil rhwng anghenion yr economi leol a bywyd gwyllt gwarchodedig yr ardal.
Mae trwyddedu’r ardal yn rhoi mesurau ar waith i ddiogelu'r cynefin. Mae delio ag achosion parhaus o gasglu cocos yn anghyfreithlon yn helpu i atal y gwelyau cocos rhag gorfod cau.
Ar hyn o bryd, mae 36 o gasglwyr cocos trwyddedig yn gallu pysgota'n gynaliadwy yng Nghilfach Tywyn. Mae 61 o bobl ar restr aros.
Meddai Andrea Winterton:
"Mae pysgodfa Cilfach Tywyn yn bwysig i'n treftadaeth leol. Os ydym yn gofalu am ein hamgylchedd, gall yr economi, y gymdeithas a bywyd gwyllt elw.
"Byddwn yn annog pobl i roi gwybod am bryderon ynghylch pysgota cregyn neu arferion pysgota eraill anghyfreithlon i linell gymorth gyfrinachol CNC drwy ffonio 0300 065 3000."
Rhaid i unrhyw un sydd eisiau casglu cocos o fewn Pysgodfa Cilfach Tywyn gael trwydded ddilys.
Yr unig eithriad yw ardal rhwng Llanrhidian Pill yn y De a Doc Llanelli yn y Gogledd, lle gall pobl gasglu hyd at 8kg y dydd heb drwydded ar gyfer eu bwyta'n bersonol.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am drwyddedau casglu cocos ewch i we-dudalennau CNC.
I roi gwybod am bryderon ynghylch casglu cocos yn anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth 24 awr y dydd CNC ar 0300 065 3000.