Dirwy i gwmni adeiladu am lygru Afon Ogwr

Llygredd gwaddod o'r Afon Ogwr

Mae cwmni adeiladu wedi cael dirwy a gorchymyn i dalu costau gwerth cyfanswm o dros £10,000 am lygru nant wrth adeiladu cartrefi ger Ton-du, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Plediodd Llanmoor Development Co. Limited o Donysguboriau yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ar 9 Awst 2024 i gyhuddiad yn ymwneud â sawl gollyngiad dŵr anghyfreithlon o’i safle Parc Ton-du rhwng Awst 2021 a Mawrth 2022.

Methodd y cwmni a'i isgontractwr ag atal dŵr wyneb, a oedd yn llwythog o silt a mwd, rhag mynd i mewn i un o lednentydd Nant Cynffig, sy’n llifo i Afon Ogwr.

Yn ystod yr ymchwiliad, roedd lefelau uchel iawn o solidau crog mewn samplau dŵr a gymerodd swyddogion CNC i lawr yr afon o’r safle.

Mae llygredd silt yn effeithio’n negyddol ar ansawdd ac ecoleg dŵr afonydd a gall ladd pryfed, planhigion a physgod. Gall hefyd gyfyngu ar silio ac ar gyfraddau deor wyau pysgod.

Yn y gwrandawiad dedfrydu ar 2 Ionawr 2025, cafodd y cwmni ddirwy o £4,000 a gorchmynnwyd hefyd i dalu costau o £6,280.79 i CNC a gordal dioddefwr o £190, cyfanswm o £10,470.79 i'w dalu o fewn 28 diwrnod.

Mae'r lefel o ddirwy am droseddau amgylcheddol yn cael ei phennu gan y llysoedd ac mae'n seiliedig ar lefel y niwed, euogrwydd, a modd ariannol y diffynnydd.

Meddai Fiona Hourahine, Rheolwr Gweithrediadau CNC: 

“Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith i helpu i ddiogelu pobl a bywyd gwyllt.
“Roedd gan Llanmoor Development Co. Limited ddyletswydd o dan ei amodau cynllunio i sicrhau bod mesurau ar waith i atal dŵr ffo halogedig rhag effeithio ar nentydd ac afonydd cyfagos.

"Roedd y cwmni'n ymwybodol o'r risgiau a'r canlyniadau o beidio â gosod mesurau lliniaru llygredd ar y cychwyn, a pheidio â’u cynnal yn iawn.

“Byddwn yn defnyddio’r holl adnoddau a’r ysgogiadau sydd ar gael i ni i atal llygredd niweidiol, gan gynnal mwy o archwiliadau ac erlyn y rhai sy’n cyflawni’r difrod mwyaf difrifol neu fwriadol.
“Hoffem ddiolch i Gymdeithas Pysgota Ogwr am roi gwybod i ni am lawer o’r digwyddiadau hyn o lygredd. Golygodd hyn y bu modd i ni ymateb yn gyflym er mwyn dod o hyd i’r ffynhonnell a chasglu’r dystiolaeth yr oedd ei hangen arnom ar gyfer yr erlyniad.”

Dylid rhoi gwybod i CNC am achosion o lygredd drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar gyfer digwyddiadau ar 03000 65 3000 neu roi gwybod ar-lein.