Clwb pysgota cymunedol yn cael hwb i annog y genhedlaeth iau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi darparu cyflenwad arbennig o bysgod arian i Lyn Pysgota Bras Ffos y Rhyl i gynyddu ei stoc bysgota, gyda'r nod o gael pobl ifanc i bysgota a threulio mwy o amser yn yr awyr agored.
Cafodd y pysgod - cymysgedd o rufelliaid a merfogiaid - eu danfon yn gynharach y mis hwn fel rhan o brosiect pysgodfeydd cynaliadwy CNC. Nod y cynllun yw cynyddu niferoedd neu boblogaethau pysgod drwy wella maint ac ansawdd cynefinoedd a gwella mynediad i gyfleoedd pysgota hamdden yng Nghymru.
Dywedodd Uwch Swyddog Pysgodfeydd CNC, Richard Pierce:
"Roedd stoc pysgod y llyn wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd angen hwb ar y clwb ac roeddem yn falch iawn o allu eu cynorthwyo i gynyddu nifer y pysgod eto.
"Mae bod y tu allan ym myd natur mor bwysig i ni i gyd. Mae effaith coronafeirws ar y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio wedi gwneud i bobl sylweddoli pa mor bwysig yw mannau gwyrdd, gan helpu gyda'n hiechyd cyffredinol yn ogystal â'n lles. Rwy'n gobeithio y bydd y cyflenwad hwn yn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â'r clwb a mynd i bysgota."
Roedd y prosiect pysgodfeydd cynaliadwy yn galluogi swyddogion i gael gafael ar y pysgod arian o ddyfroedd lleol a chanddynt ddigonedd o bysgod, a hynny mewn modd cynaliadwy. Fel rhan o'r broses ail-leoli, roedd yn ofynnol i'r pysgod basio archwiliad iechyd, gan sicrhau nad oeddent yn cario unrhyw barasitiaid neu glefyd cyn eu trosglwyddo.
Dywedodd Darren Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Ffos y Rhyl:
"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth CNC gyda Llyn Pysgota Bras Ffos y Rhyl. Mae'r clwb wedi'i leoli yng nghanol y Rhyl ac mae'n rhoi cyfle i aelodau fynd i bysgota ar garreg eu drws. Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn ymuno â'r clwb ac mae'n wych ein bod yn gallu parhau i gynnig y cyfleuster hwn fel lle ar gyfer gweithgareddau pysgota hamdden.
"Hoffem ddiolch i dîm CNC yn ogystal â'n haelodau ein hunain am ein helpu i ailstocio Ffos y Rhyl. Edrychwn ymlaen at groesawu ein haelodau eto a pharhau i weld y clwb yn tyfu a ffynnu."
Ychwanegodd Richard Pierce:
"Mae CNC yn awyddus i ddatblygu a gwella seilwaith gwyrdd trefol a gwledig ac mae'r prosiect hwn yn amlygu ein hymrwymiad i weithio ochr yn ochr â'n trefi a'n dinasoedd i wella cynefinoedd bywyd gwyllt yn ogystal ag ailgysylltu pobl â natur."
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu pysgodfa gymunedol? Cysylltwch â Rheolwr y Prosiect Pysgodfeydd Cynaliadwy ar Katrina.Marshall@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.