Cynllun i weithredu ar y cyd i wella dyfroedd ymdrochi Prestatyn a'r Rhyl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi addo i barhau i weithio'n agos â phartneriaid i geisio gwella ansawdd dŵr ar draws Sir Ddinbych ar ôl i'r dosbarthiadau dŵr ymdrochi diweddaraf.

Datgelodd y dosbarthiadau dŵr ymdrochi ar gyfer 2024 fod traeth Prestatyn wedi symud o’r categori 'Rhagorol' i 'Da', tra bod traeth Canol Y Rhyl wedi ei ddosbarthu fel 'Gwael' - yr unig draeth yng Ngogledd Cymru i dderbyn y sgôr hon yn 2025.

Er gwaethaf anawsterau ym Mhrestatyn a'r Rhyl, mae'r Dosbarthiadau Dŵr Ymdrochi diweddaraf yn dangos gwelliant pellach yn y Marine Lake, sydd wedi codi o 'Digonol' i 'Da'. Mae'r newid cadarnhaol hwn yn dilyn gwaith helaeth y tu ôl i'r llenni i nodi a mynd i'r afael â'r lefelau bacteria uchel a arweiniodd at statws 'Gwael' yn 2022.

Mae ffactorau amgylcheddol wedi effeithio ar Prestatyn a Canol Y Rhyl yn ystod cyfnodau o law trwm, gan gynnwys dŵr ffo o dir amaethyddol, gollyngiadau carthion a dŵr budr o carthffosiaeth trefol.

Mae cysylltiad agos rhwng dosbarthiad Y Rhyl a dylanwad Afon Clwyd, sydd 800 medr yn unig i'r gorllewin o'r ardal ymdrochi. Mae dŵr yr afon, sy'n cael ei wthio tua'r lan gan lanw sy'n dod i mewn, yn cynnwys lefelau uwch o facteria, yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb.

Yn yr un modd, mae gollyngiadau o Rhyl Cut yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr Prestatyn, sydd wedi'i leoli tua 3 cilomedr i'r gorllewin o'r traeth, ac Afon Clwyd yn ystod llifoedd uchel.

Mae'r dosbarthiadau'n seiliedig ar set ddata pedair blynedd, gan roi darlun cliriach o dueddiadau ansawdd dŵr dros amser.

Er bod y canlyniadau hyn yn siomedig, mae CNC a phartneriaid am barhau i gymryd camau mewn ymgais i wella'r sefyllfa trwy ystod o fentrau gyda'r nod o leihau bacteria yn nalgylch Clwyd.

Yn 2023/24, cwblhawyd wyth prosiect ar wahân i helpu i gyfyngu mynediad da byw i afonydd, a all fod yn ffynhonnell o lygredd. Roedd yr ymdrechion hyn yn cynnwys gosod dros 5,000 metr o ffensys a sefydlu 27 o gafnau dŵr a systemau dyfrio newydd i ddarparu ffynonellau dŵr amgen ar gyfer da byw.

Hefyd, mae CNC wedi gweithio i gynyddu bioamrywiaeth a lleihau erydiad pridd trwy blannu 115 metr o wrychoedd ar hyd cyrsiau dŵr. Mae'r gwrychoedd hyn yn gweithredu fel rhwystrau naturiol, gan atal anifeiliaid rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd a lleihau dŵr ffo maetholion, a all arwain at ansawdd dŵr gwael. Mae'r gwaith hwn wedi creu dros 13,000m2 o barthau torlannol gwarchodedig (tir sy'n ffinio ar gorff dŵr) o fewn dalgylch Clwyd.

Mae CNC hefyd yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid ar gynlluniau sydd ar y gweill fel yr un yn Nhremeirchion, sy'n defnyddio atebion seiliedig ar natur i drin carthion. Bydd y mentrau hyn nid yn unig yn ceisio gwella ansawdd dŵr mewn safleoedd ymdrochi penodol fel Canol Y Rhyl a Phrestatyn, ond hefyd yn cyfrannu at iechyd cyffredinol y dalgylch.

Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau’r Gogledd-ddwyrain, CNC:

"Mae sicrhau bod ein dyfroedd ymdrochi yn ddiogel ac yn lân yn brif flaenoriaeth i ni. Nid yw'r canlyniadau diweddar ar gyfer Prestatyn a'r Rhyl yr hyn yr oeddem yn ei obeithio, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n agos gyda phartneriaid i geisio gwella ansawdd y dŵr yn y ddau safle.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda thirfeddianwyr lleol i leihau faint o faetholion, gwaddod a gwastraff anifeiliaid sy'n mynd i mewn i afonydd fel Afon Clwyd. Mae'r ymdrechion hyn wedi gwneud gwahaniaeth, ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd.
"Byddwn yn parhau i gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddiol i sicrhau cydymffurfiaeth ansawdd dŵr. Yn ogystal, byddwn yn adolygu cywirdeb y system rhagfynegiad ansawdd dŵr ymdrochi dyddiol ar gyfer y Rhyl a Phrestatyn, wrth baratoi ar gyfer tymor y flwyddyn nesaf."
"Drwy gydweithio â phartneriaid a thirfeddianwyr, byddwn yn ceisio helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n effeithio ar ein dyfroedd ac yn cymryd camau ystyrlon tuag at wella yn y tymor hir. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein cymunedau lleol a diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."