Dathlu Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ar Afon Dyfrdwy
I nodi Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ddydd Sadwrn 21 Mai, bydd Swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a staff o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn cynnal diwrnod agored ger trap monitro pysgod cored Caer ar Afon Dyfrdwy.
Caiff Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ei nodi bob dwy flynedd i dynnu sylw at ba mor bwysig yw agor ein hafonydd er mwyn helpu poblogaethau o bysgod mudol i adfer ac er mwyn gwella cysylltedd.
Bydd y digwyddiad yn caniatáu i’r cyhoedd weld sut caiff pysgod eu monitro ar Afon Dyfrdwy, man cychwyn eu taith i fyny’r afonydd i silio. Bydd hefyd yn gyfle i siarad â staff CNC a staff prosiect LIFE Afon Dyfrdwy am eu gwaith. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11am ac yn gorffen am 2pm.
Bydd y cyhoedd yn cael cyfle i weld y gwaith pwysig y mae swyddogion CNC yn ei wneud o ddydd i ddydd i wella amodau’r afon i bysgod a rhywogaethau eraill. Bydd cyfle i weld eogiaid gwyllt a dysgu sut cânt eu tagio a’u monitro yn Afon Dyfrdwy.
Bydd Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yno hefyd i siarad am eu gwaith cadwraeth i wella’r cynefin ac ansawdd y dŵr ac i helpu pysgod ar eu taith i fyny is-afonydd y Dyfrdwy.
Meddai Katrina Marshall, Rheolwr Prosiect Pysgodfeydd Cynaliadwy CNC:
“Rydyn ni’n falch i fod yn agor trap monitro pysgod cored Caer am y diwrnod i adael i’r cyhoedd weld gyda’u llygaid eu hunain y gwaith hanfodol sy’n digwydd y tu ôl i’r llen.
“Yn ystod y dydd, rydyn ni’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd pysgod mudol ac afonydd agored, nid yn unig ar Afon Dyfrdwy, ond drwy Gymru gyfan.
“Bydd y ffaith bod cydweithwyr o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bresennol yn rhoi nifer o gyfleoedd i’r cyhoedd drafod pwysigrwydd ein gwaith ar Afon Dyfrdwy.”
Meddai Joel Rees-Jones, Arweinydd Tîm y prosiect LIFE Afon Dyfrdwy:
“Mae bod yn rhan o Ddiwrnod Mudo Pysgod y Byd yn Trap Caer yn rhoi’r cyfle i dîm prosiect LIFE Afon Dyfrdwy roi gwybod i bobl am y gwaith y mae’r prosiect yn ei wneud i wella mynediad i eogiaid, llysywod pendoll y môr a rhywogaethau eraill o fewn yr Afon Dyfrdwy.
“Mae’r digwyddiad yn ein galluogi i dynnu sylw at bwysigrwydd cael gwared ar rwystrau drwy adfer cynefinoedd, tra hefyd yn gallu dangos rhai o’r technegau monitro a ddefnyddiwyd fel rhan o’r prosiect.”
Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi’i ariannu gan yr UE i weddnewid Afon Dyfrdwy a’i dalgylch drwy adfer yr afon a’r amgylchedd o’i chwmpas i’w cyflwr naturiol.
I ddysgu mwy am Ddiwrnod Mudo Pysgod y Byd, ewch i https://www.worldfishmigrationday.com/.