Taflwch lein a dihangwch rhag y dwndwr

Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fydd ein meddyliau'n troi at gymryd ychydig o amser i ni'n hunain a gwneud y pethau sydd o les i’n hiechyd a'n lles. I lawer ohonom, mae hyn yn golygu pacio gwialen a lein a dianc rhag y dwndwr ar ein dyfroedd gwych yma yng Nghymru.

Mae pysgota'n parhau i fod yn boblogaidd yng Nghymru, gyda miloedd o bobl o bob oed a gallu yn meddu ar drwydded pysgota â gwialen.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y rhai sydd am brofi'r holl hwyl a chynnwrf a ddaw wrth bysgota i wneud cais ar-lein am drwydded pysgota â gwialen.

Meddai Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib brofi'r pleser pur ddaw wrth bysgota, felly drwy gydol yr haf byddwn yn annog pawb i ‘ddianc rhag y dwndwr' trwy naill ai ddychwelyd at bysgota neu roi cynnig arno am y tro cyntaf.
"Mae llu o weithgareddau hamdden i’r hen a’r ifanc ar ein hafonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr yng Nghymru, lle mae'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bysgota yn sicrhau bod rhywbeth i bawb, o'r pysgotwr cwbl ddibrofiad i'r un sy’n hen law arni.
“Mae llu o fanteision i fynd i bysgota a gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol drwy gysylltu pobl â byd natur."

Os ydych chi'n 13 oed neu'n hŷn, bydd angen trwydded pysgota â gwialen arnoch chi i bysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid Conwy neu lysywod yng Nghymru neu Loegr. Mae consesiynau ar gael i bysgotwyr hŷn ac anabl, tra bod trwyddedau i bobl ifanc ar gyfer y rhai sy’n 13 i 16 oed am ddim, ond mae angen i bysgotwyr ifanc gofrestru.

Mae incwm a gynhyrchir gan drwyddedau pysgota â gwialen yn helpu i ddiogelu a gwella pysgodfeydd a chyfleusterau i bysgotwyr. Mae pysgota heb drwydded gwialen ddilys yn anghyfreithlon a gallai arwain at euogfarn droseddol a dirwy.

Mae trwyddedau ar gael am 12 mis, 8 Diwrnod ac 1 Diwrnod a gall siaradwyr a dysgwyr Cymraeg nawr wneud cais am eu trwydded yn Gymraeg. Gellir eu prynu'n gyflym ac yn hawdd ar-lein yn "Cael Trwydded Bysgota â Gwialen" ar GOV.UK neu dros y ffôn drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386.

Ac mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion llawn am sut i brynu trwydded yn ogystal â rheolau ynglŷn â sut, pryd a ble y gallwch bysgota yng Nghymru, i'w gweld ar wefan CNC.

Ychwanegodd Ben:

"Os ydych chi'n newydd i bysgota neu os nad ydych chi wedi bod yn pysgota ers tro, mae digon o gefnogaeth ac arweiniad ar gael hefyd: popeth o ble i bysgota i ba offer sydd ei angen arnoch er mwyn dechrau arni.
"Mae ymuno â chlwb pysgota yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd; gallwch chi rannu cwch am ddiwrnod ar gronfa ddŵr neu gofrestru ar gyfer un o'r cystadlaethau pysgota niferus sy'n cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.
"Neu os oes gennych chi ffrind neu berthynas a hoffai roi cynnig ar bysgota am y tro cyntaf, beth am fanteisio ar fenter Take a Friend Fishing sy'n rhedeg o 27 Gorffennaf i 1 Medi, sydd â’r nod o roi cyfle i fwy o bobl roi cynnig ar bysgota drwy ganiatáu i bysgotwr trwyddedig gymryd pysgotwr sydd heb drwydded allan am y diwrnod.
"Am y cyngor gorau ar ble a sut i bysgota, ewch i wefan Pysgota yng Nghymru, fishingwales.net, lle gallwch chi ddod o hyd i bopeth fydd ei angen i chi fynd i bysgota p'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n bysgotwr profiadol.
"Mae gwefan Pysgota yng Nghymru yn cael ei hariannu'n rhannol gan ddefnyddio incwm trwyddedau pysgota â gwialen a dyma'r wefan orau i bysgotwyr lleol ac ymwelwyr sydd am gael gwybod am gyfleoedd pysgota yng Nghymru.
"Mae yna gyfoeth o gyfleoedd o ran pysgota yng Nghymru ac mae digon o ddewis gan gynnwys afonydd a chronfeydd bras a dyfroedd llonydd, felly nawr yw’r amser i fynd allan i bysgota."

Am fwy o wybodaeth am brynu trwydded pysgota â gwialen, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Chwilio / trwydded gwialen

Am fwy o wybodaeth am bysgota yng Nghymru, ewch i Pysgota yng Nghymru | (fishingwales.net)

Darganfyddwch fwy am Take a Friend Fishing yn Take a Friend Fishing - register for a free one-day fishing licence

I roi gwybod am bysgota anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau CNC ar 03000 65 3000.