Cosb o £2,270 ar ôl i gamerâu ddal tipiwr anghyfreithlon

Mae dyn a wnaeth dipio gwastraff yn anghyfreithlon yng Nghoedwig Dyfi wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £2,270 mewn dirwyon a chostau ar ôl cael ei ddal ar gamerâu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dedfrydwyd Toby Hamilton am dipio anghyfreithlon yng Nghoedwig Dyfi ger Pantperthog yn dilyn ymchwiliad gan Taclo Tipio Cymru (Fly Tipping Action Wales) a ddechreuodd pan welwyd ei dryc yn y goedwig ardal ar dri achlysur gwahanol ym mis Gorffennaf 2024. Cafodd gwastraff ei ddarganfod yn ddiweddarach ar y safle, ac adnabyddwyd Mr Hamilton trwy ddefnyddio rhif plât ei gerbyd.
Wrth gael ei holi dan rybudd, gwadodd Mr Hamilton ei fod wedi bod yn tipio yn anghyfreithlon a'i fod wedi bod yn yr ardal i saethu cwningod er mai dim ond am ychydig funudau ar bob achlysur y bu yn y goedwig.
Er iddo wadu'r drosedd wrth gael ei gyfweld dan rybudd, fe blediodd Mr Hamilton yn euog i waredu gwastraff yn anghyfreithlon pan gafodd ei erlyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 4 Chwefror 2025.
Cafodd ddirwy o £600 am waredu gwastraff rheoledig ei ostwng i £400 oherwydd ple euog cynnar. Derbyniodd ddirwy o £225 am drosedd is-ddeddfau, a gostyngwyd i £150. Gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £220, ac i gyfrannu £1,500 tuag at gostau erlyniad, gan ddod â chyfanswm y gosb ariannol i £2,270.
Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Gweithredu Taclo Tipio Cymru:
"Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i fynd i'r afael â gwaredu gwastraff anghyfreithlon a diogelu ein hamgylchedd naturiol. Mae ein staff ymroddedig yn gweithio'n ddiflino i ymchwilio i ddigwyddiadau a dod â throseddwyr o flaen eu gwell."
Gall y cyhoedd helpu i ddiogelu tirweddau ac amgylchedd Cymru trwy adrodd tipio anghyfreithlon. Gall tystion ffonio llinell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000, neu ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar-lein.
Mae Taclo Tipio Cymru yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei chynnal a'i chefnogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.