Canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn ennill ail Wobr y Faner Werdd i CNC
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian - ger Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru - wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd.
Mae'r wobr - a chydlynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.
Y ganolfan yw’r ail safle a redir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i dderbyn y wobr. Dyfarnwyd y Faner Werdd i Ganolfan Ymwelwyr Garwnant – sy’n cael ei redeg gan CNC - ger Merthyr Tudful yn 2016.
Dywedodd Pennaeth Lle Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Canolbarth Cymru, Gavin Bown: "Rydym yn falch iawn bod Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian wedi ennill y wobr fawreddog hon. Mae'r safonau gofynnol er mwyn dyfarnu'r Faner Werdd yn uchel iawn, ac rydym yn falch iawn o fod wedi cwrdd â nhw.
"Mae Bwlch Nant yr Arian yn lle gwyrdd pwysig a gwerthfawr i'w fwynhau i bobl leol ac i ymwelwyr."
"Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o waith caled ac ymroddiad ein staff i sicrhau bod ymwelwyr yn cael diwrnod i'w gofio, yn hapus i rannu eu profiadau gydag eraill ac eisiau dychwelyd yn y dyfodol."
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus: "Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff yng nghanolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian a Garwnant am gyrraedd a chynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn."
Yn adnabyddus am ei thraddodiad hirsefydlog o fwydo barcudiaid coch yn ddyddiol ac am ei lwybrau beicio mynydd, dyfarnwyd Gwobr Travellers’ Choice gan TripAdvisor i Fwlch Nant yr Arian hefyd yn 2021.
Cydlynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol ar fannau gwyrdd eu hamser yn gynnar yn yr hydref i farnu safleoedd yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.