Adar prin yn llwyddo i fagu yn ne Cymru
Mae un o'r rhywogaethau adar prinnaf ac sydd o dan fygythiad yn y DU wedi magu’n llwyddiannus ar Wastadeddau Gwent am y tro cyntaf ers dros 200 o flynyddoedd.
Mae cywion aderyn y bwn wedi ymadael â dau nyth yng Ngwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd, sy'n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.
Cofnodwyd yr adar am y tro cyntaf gan Kevin Dupé, aelod o dîm CNC sydd wedi bod yn gweithio yn y warchodfa ers dros 19 mlynedd. Cadarnhawyd eu bodolaeth yn ddiweddarach gan y cofnodwr adar ac adaregwr sirol lleol, Darryl Spittle.
Math o grëyr sy'n byw mewn gwelyau cyrs yn unig yw aderyn y bwn. Ar un adeg, credwyd bod y rhywogaeth wedi diflannu yn y DU ar ôl blynyddoedd o erledigaeth a cholled ddramatig o ran cynefin, ond mae poblogaethau wedi dychwelyd ers hynny i ardaloedd lle mae cynefin gwelyau cyrs o ansawdd uchel yn dal i fodoli.
Dywedodd Kevin Dupé o Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae gweld adar y bwn yn nythu yng Ngwlyptiroedd Casnewydd yn olygfa wirioneddol wych, ac yn llwyddiant go iawn i'r rhai ohonom sydd wedi bod yn ymwneud â chadwraeth cynefinoedd ar y safle ers amser maith.
"Yn y blynyddoedd diwethaf mae adar y bwn wedi bod yn nythu ac yn magu mewn rhannau o ogledd Cymru lle bu gwaith adfer helaeth ar welyau cyrs, ac ni allem ond gobeithio y byddem yn gweld llwyddiant tebyg yma.
"Mae gwlyptiroedd yn gynefin pwysig sydd angen ein cymorth. Yn ogystal ag achub rhywogaethau fel aderyn y bwn rhag difodiant, gallant hefyd ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy storio carbon niweidiol a dal dŵr llifogydd yn ôl."
Meddai Cellan Michael, sef Rheolwr Ardal De Cymru gydag RSPB Cymru:
"Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref pwysig i fywyd gwyllt ac yn ffynhonnell werthfawr o natur i'r boblogaeth drefol fawr sy'n byw mewn trefi a dinasoedd cyfagos. Rydym yn falch iawn bod adar y bwn yn nythu yma, gan ymuno â charfan o fywyd gwyllt prin sy'n ffynnu ar y warchodfa.
"Roedd y cofnod diwethaf o adar y bwn yn nythu yn ne Cymru dros 200 o flynyddoedd yn ôl, felly mae'r ffaith bod yr aderyn eiconig hwn yn nythu yn Ngwlyptiroedd Casnewydd yn dangos sut mae creu a rheoli gwelyau cyrs ar y safle hwn wedi talu ar ei ganfed. Rydyn ni’n gobeithio bod y llwyddiant yma’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, ac y bydd mwy o fywyd gwyllt prin yn ymgartrefu yn y safle hwn ac ar draws Gwastadeddau Gwent yn y dyfodol."
Meddai Darryl Spittle, Cofnodwr Adar Sirol o Gymdeithas Adareg Gwent:
“Roedd yn ardderchog clywed fod adar y bwn wedi bridio’n llwyddiannus yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, sy’n llwyddiant arall i dîm rheoli CNC ac yn ychwanegiad cyffrous at avifauna Gwent. Efallai fod adar y bwn wedi nythu yng Ngwent yn y gorffennol, ond oherwydd y draenio gwlyptiroedd sylweddol a fu yn y 18fed ganrif mae’n bosibl fod tua 250 o flynyddoedd ers iddynt gael cywion y sir!”
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn safle unigryw sy'n cynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfeydd heli a lagwnau heli. Mae rhaglen gadwraeth barhaus gan CNC ac RSPB Cymru yn helpu i gadw'r cynefin mewn cyflwr da ar gyfer y rhywogaethau prin sy'n ffynnu ynddo.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r warchodfa hefyd wedi elwa o'r Rhaglen Lefelau Byw – partneriaeth wedi'i hariannu gan y Gronfa Dreftadaeth y Loteri sy'n ceisio ailgysylltu pobl â threftadaeth a bywyd gwyllt tirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent.
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd wedi ailagor i ymwelwyr ar ôl cau am gyfnod byr oherwydd Covid-19. Hoffai CNC atgoffa ymwelwyr i gymryd rhagofalon a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser.
I weld y diweddaraf ar safleoedd a gaewyd, ewch i wefannau CNC a’r RSPB.