Carcharu dyn o Ynys Môn am storio asbestos heb drwydded
Mae dyn o Ynys Môn wedi’i garcharu am with mis ar ôl pledio’n euog i storio asbestos heb drwydded yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Plediodd Aidan Rowden, o Faes Llwyn, Amlwch, Ynys Môn, yn euog i bedwar cyhuddiad o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Caernarfon.
Yna, cafodd ei gyfeirio i Lys y Goron, Caernarfon, sydd â grymoedd dedfrydu ehangach, a’I ddedfrydu ar 6 Rhagfyr.
Mr Rowden oedd unig gyfarwyddwr Asbestos North West & Wales Ltd ac mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â derbyn a storio gwastraff asbestos heb drwydded yn ystod dau gyfnod ar wahân, ar a chyn 20 Awst 2020 ac ar a chyn 28 Mawrth 2022 ar dir ar Ystad Ddiwydiannol Llwyn Onn, Amlwch, Ynys Môn.
Yn ogystal â derbyn with mis o garchar, cafodd ei gwmni - Asbestos North West & Wales Ltd – ddirwy o £20,000 a gorchymyn I dalu costau o £11,853.
Rhaid i fusnesau sy'n cael gwared ar wastraff asbestos gasglu a chludo'r asbestos yn uniongyrchol i gyfleuster gwastraff sydd wedi'i awdurdodi i'w dderbyn a'i storio.
Meddai Euros Jones, rheolwr gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru:
“Mae’r ddedfryd hon yn adlewyrchu difrifoldeb storio gwastraff asbestos heb drwydded.
"Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith am reswm ac mae angen trwyddedau ar gyfer busnesau yn y diwydiant gwastraff sy'n symud ac yn storio gwastraff. Mae asbestos yn ddeunydd peryglus ac mae angen ei drin yn ofalus iawn.
“Mae rheoliadau'n sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peri risg i'r amgylchedd nac i iechyd pobl.
“Rydym yn gweithio'n agos â gweithredwyr i wneud yn siŵr bod gweithgareddau'n cydymffurfio â'r gyfraith ac yn darparu cefnogaeth ac arweiniad pan fo angen.
“Fodd bynnag, pan fydd busnes yn methu â gweithredu o fewn telerau ei drwydded a'r canllawiau a ddarperir, byddwn yn cymryd camau priodol. Mae gweithredu heb y drwydded ofynnol yn effeithio ar fusnesau cyfreithlon eraill ac yn rhoi gweithwyr ac aelodau'r cyhoedd mewn perygl o ganlyniad i wastraff peryglus.
“Rydym yn gobeithio fod canlyniad yr achos hwn yn anfon neges glir, rydym yn cymryd troseddau o'r math hwn o ddifrif a byddwn yn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur.”
Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen adrodd ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol