Agoriad swyddogol i gynllun rheoli perygl llifogydd gwerth £6m yn Rhydaman
Mae cynllun rheoli perygl llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd a gynlluniwyd i leihau’r perygl o lifogydd ar gyfer dros 380 o adeiladau yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, wedi cael ei agor yn swyddogol heddiw (12 Medi 2024).
Wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan AS a’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies AS ymweld â’r dref i nodi cwblhau’r prosiect ac yn cyfarfod ag aelodau o’r gymuned a fydd yn elwa o’r prosiect gwerth £6 miliwn a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae Rhydaman wedi profi nifer o ddigwyddiadau llifogydd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, gyda digwyddiadau yn y gorffennol rhwng 1979 a 2009 yn achosi difrod sylweddol i gartrefi, ffyrdd a llinellau rheilffordd.
Heb ymyrraeth CNC, byddai 223 eiddo (198 o gartrefi a 25 o fusnesau) yn y dref wedi parhau i fod mewn perygl o lifogydd mewn digwyddiad llifogydd eithafol (siawns blynyddol o 1%), gyda seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd mewn perygl o gael eu heffeithio’n ddifrifol. Byddai'r ffigwr hwn wedi cynyddu i 386 eiddo dros y ganrif nesaf o ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman yn ystod haf 2023, gan ganolbwyntio ar liniaru perygl llifogydd o afonydd Llwchwr, Marlas a Lash.
Mae'r cynllun yn ymgorffori ystod o fesurau, gan gynnwys argloddiau a waliau amddiffyn rhag llifogydd ar hyd Afonydd Llwchwr a Marlas, ac arglawdd pridd newydd yng nghae Tir-y-Dail i atal llifogydd rhag cyrraedd cartrefi, busnesau a rheilffyrdd cyfagos. Bydd mesurau diogelu ar lefel eiddo ar Heol Aberlash yn cael eu rhoi ar waith y flwyddyn nesaf.
Mae’r cynllun hefyd yn lleihau’r perygl o lifogydd i Orsaf Reilffordd Rhydaman, llwybrau trafnidiaeth allweddol, a champws Coleg Sir Gâr.
Mae’r manteision ychwanegol yn cynnwys gwelliannau amgylcheddol megis cael gwared ar rwystr sylweddol i ymfudiad pysgod yng nghored Tir-y-Dail, creu cynefin i ddyfrgwn, adar ac ystlumod, a chydweithio â Chyngor Sir Caerfyrddin i blannu coetir brodorol a gwella’r arlwy hamdden yn yr ardal.
Cwblhawyd y gwaith ym mis Awst 2024, gan leihau’r perygl llifogydd i 349 eiddo preswyl, 37 eiddo dibreswyl a seilwaith hanfodol yn y dref.
Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Mae llifogydd wedi effeithio ar Rydaman sawl gwaith yn y 40 mlynedd diwethaf. Roedd yn braf iawn ymweld heddiw i weld sut y bydd y gwaith hwn o fudd i bobl sy’n byw yn yr ardal.
“Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau nawr i amddiffyn y cymunedau sydd fwyaf dan fygythiad rhag effaith newid hinsawdd. Ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru, byddwn yn parhau i amddiffyn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf rhag llifogydd ledled Cymru.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
“Rydyn ni'n gwybod na fydd effeithiau newid hinsawdd yn lleihau a dwi'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn rhoi'r sicrwydd angenrheidiol i gymuned Rhydaman y byddan nhw'n cael eu hamddiffyn.
“Mae ein cyllid llifogydd ac arfordiroedd wedi parhau ar y lefelau hynod uchel, ac rydym eisoes wedi diogelu dros 8000 eiddo ledled Cymru rhag perygl llifogydd.”
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin, CNC
“Yn wyneb yr heriau a ddaw yn sgil hinsawdd sy’n newid a chyfnodau amlach o dywydd eithafol, rydym yn gweithio’n galed i helpu cymunedau i addasu i’r bygythiad cynyddol o lifogydd i gartrefi a busnesau ledled Cymru a lliniaru’r perygl hwnnw.
“Er na fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd, rydym wedi cyflwyno cynllun cadarn yn Rhydaman a fydd yn lleihau’r perygl hwnnw’n sylweddol. Mae cwblhau’r cynllun hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymdrechion parhaus i ddiogelu cymunedau rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan roi tawelwch meddwl effeithiol, hirdymor i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yma, a dod â buddion ecolegol a chymunedol ehangach, gan wneud Rhydaman yn lle mwy gwydn a ffyniannus i’w drigolion am flynyddoedd lawer.”
CNC yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer rheoli perygl llifogydd o brif afonydd a’r môr yng Nghymru. Bydd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill drwy gydol yr hydref a’r gaeaf i helpu i sicrhau bod cymunedau’n barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau tywydd eithafol.
Mae CNC hefyd yn annog pobl i gymryd tri cham syml i helpu i baratoi eu hunain ar gyfer llifogydd: