Llwybrau Coedwig Afan i ailagor dros y Pasg

Yn dilyn cyfnod heriol o waith cwympo coed sylweddol ac adfer ar ôl stormydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i ailgynnau’r antur yng Nghoedwig Afan, mewn pryd ar gyfer y Pasg.
Bydd Rhyslyn yn ailagor ddydd Gwener 11 Ebrill, a bydd yn cynnwys yr adrannau sydd newydd eu hadfer o lwybrau beicio mynydd, sef Igam Ogam, Cam 4 a Beiciwr Newydd (glas), yn ogystal â llwybrau cerdded Gyfylchi a Phenrhys.
Fe fu’n gyfnod heriol i Goedwig Afan. Yn dilyn cyfnod hir o waith cwympo coed i gael gwared ar goed llarwydd marw a heintiedig ac effaith ddinistriol stormydd — yn enwedig Storm Darragh — roedd llawer o ardaloedd yn amhosib mynd atynt, ac amharodd hynny ar dwristiaeth a’r busnesau lleol sy’n dibynnu ar fwrlwm y goedwig.
Bu contractwyr yn gweithio’n ddiflino i glirio ardaloedd a ddifrodwyd gan stormydd, gan ganiatáu i lwybrau poblogaidd fel Awyrlin a Llafn yng Nglyncorrwg ailagor. Fodd bynnag, mae rhai rhannau ar gau o hyd er diogelwch oherwydd difrifoldeb y coed a chwythwyd i lawr yn y gwynt a'r risgiau y mae'r rhain yn eu cyflwyno.
Bydd y llwybr Blino’n Siwps, sydd newydd ei haliddylunio, yn agor erbyn Penwythnos Gŵyl Banc y Pasg. Yn anffodus, mae agor adran llwybr pren llwybr Goodwood wedi ei ohirio oherwydd fod deunyddiau wed’u dwyn o'r safle yr wythnos hon.
Diolch i gefnogaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae rhannau o’r rhwydwaith o lwybrau wedi’u hailddylunio a’u gwella. Mae’r pecyn cyllid hwn yn dod i £173,000, gyda £160,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r gweddill gan CNC.
Mae’r cronfeydd hanfodol hyn wedi galluogi gwaith ailddylunio ac uwchraddio hanfodol ar lwybrau Blino’n Siwps, Igam Ogam, Cam 4 a Beiciwr Newydd (glas) i wella’r profiad i feicwyr a helpu i ddenu mwy o dwristiaeth i’r ardal.
Yn ogystal, mae gwaith adfer allweddol ar lwybrau wedi’i wneud yn bosibl gan Gronfa Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ymdrechion i adfer mynediad i’r dirwedd werthfawr hon gan gynnwys adfer y rhan o lwybr Goodwood sy’n llwybr pren, a gwella’r llwybrau cerdded o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Afan a Maes Parcio Rhyslyn.
Dywedodd Phil Morgan, Arweinydd Tîm Rheoli Tir ar gyfer de-orllewin Cymru yn CNC:
“Mae wedi bod yn hynod gadarnhaol gweld cymaint o waith yn digwydd i adfer Coedwig Afan ar ôl cyfnod mor anodd.
“Mae contractwyr a swyddogion CNC wedi bod yn gweithio’n galed i glirio coed wedi’u chwythu i lawr gan y gwynt ac i adfer ac ailddylunio’r llwybrau. Mae grŵp Gwirfoddolwyr Llwybr Afan wedi cyfrannu at yr achos drwy helpu i glirio’r llwybrau a gwneud gwaith cynnal a chadw i helpu i ailagor y llwybrau.
“Diolch i bawb am eu hamynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn deall y rhwystredigaeth y mae hyn wedi’i achosi, a gobeithiwn y bydd safon uchel y gwaith adfer a gyflawnwyd, a’r buddsoddiad gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Llywodraeth Cymru, yn helpu i adfywio Coedwig Afan fel cyrchfan i ymwelwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Lles:
"Rydym yn falch o gefnogi'r gwaith o adfer Coedwig Afan a'i llwybrau poblogaidd, sydd nid yn unig yn hanfodol i'r economi leol ond hefyd yn darparu lle gwerthfawr ar gyfer lles a hamdden.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn gam sylweddol tuag at ddod â phobl yn ôl i'r goedwig ac arddangos harddwch ac antur sydd gan Ddyffryn Afan i'w gynnig.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr a'r contractwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino i adfer y llwybrau, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr hen a newydd y Pasg hwn a thu hwnt."
Bydd CNC yn ymdrechu i ddal ati i glirio mwy o rannau o’r llwybr sydd wedi’u heffeithio gan y stormydd diweddar.
Cadwch lygad ar ein sianeli am ddiweddariadau a gwybodaeth am y llwybrau.