Stori o lwyddiant ym myd natur
Mae pryfyn sydd wedi prinhau yn arw yn ffynnu mewn cornel dawel o Ynys Môn.
Yr haf hwn, mae mwy na 130 o fursennod deheuol gwrywaidd wedi cael eu cyfrif ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghors Erddreiniog, a reolir mewn cydweithrediad â'r tirfeddiannwr lleol.
Yma, yn eu lleoliad mwyaf gogleddol yn y Deyrnas Unedig, mae'r pryfed cain hyn yn ffynnu mewn rhediadau o ddŵr agored o fewn cynefin y ffen. Mae'n hawdd adnabod y gwrywod â'u marciau glas a du amlwg, tra bo menywod yn ddu ar y cyfan.
Mae'r warchodfa hefyd yn gartref i rywogeth prin arall - un o boblogaethau mwyaf y DU o'r pryf milwrol mawr a deniadol - stratiomys chamaeleon.
Meddai Rheolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog, Emyr Humphreys: “Rydan ni'n clywed mor aml am yr Argyfwng Natur a cholli bioamrywiaeth, sy'n peri pryder mawr. Ond mae ein gwaith yn Cors Erddreiniog yn dangos, os yw'r amodau'n iawn, y gall bywyd gwyllt ddychwelyd.”
Mae'r gyfrinach i lwyddiant wedi bod yn syml….
Trwy gydol y 1990au a'r 2000au, roedd pori yn cynnal yr amodau o lystyfiant agored, byr sydd eu hangen ar y pryfed prin yma. Yn ddiweddarach, pan welwyd gostyngiad yn y pori – cyn i bori ddod i ben yn gyfangwbl - dioddefodd y pryfetach prin.
Trwy gydweithrediad â'r tirfeddiannwr, mae pori wedi'i adfer ers 2017.
Mae'r ardaloedd ffen alcalïaidd mwyaf sensitif hefyd wedi cael eu strimio a’r llystyfiant wedi’i gasglu a’i gario ymaith. Torrwyd ardaloedd eraill gyda pheiriant torri a chasglu arbenigol. Yna, defnyddiodd y tirfeddiannwr y llystyfiant yn wely i dda byw.
Ac mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain.
Ychwanegodd Emyr: “Tra bod rheoli sensitif yn gwneud gwahaniaeth yn barod, dros amser - cyhyd â'n bod yn parhau fel hyn - bydd y safle'n dod yn gyfoethocach fyth yn fotanegol, gan helpu i adfer mwy o rywogaethau."
Dylai unrhyw un sy’n ymweld â Cors Erddreiniog gadw at y llwybrau sydd wedi'u marcio.