Y gwirfoddolwyr cyntaf allan yn mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol ar Afon Teifi

Gwirfoddolwyr yn tynnu Jac y Neidiwr ar y Dulas yn Llanbedr Pont Steffan 2

Wrth i Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol (20-26 Mai) fynd rhagddi mae’r grŵp cyntaf o wirfoddolwyr wedi mynd i lannau Afon Teifi i fynd i’r afael â lledaeniad Jac y Neidiwr ymledol.

Mae’r grŵp o 16 o wirfoddolwyr wedi gweithio’n galed yr wythnos hon i reoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) ar Afon Dulas yn Llanbedr Pont Steffan – un o lednentydd Afon Teifi.

Mae arolygon dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod Jac y Neidiwr yn gorchuddio ardaloedd helaeth ar hyd glannau afon Dulas.

Cliriodd gwirfoddolwyr 300metr o blanhigion Jac y Neidiwr goresgynnol ar hyd dwy lan yr afon, gyda'r nod o reoli lledaeniad y rhywogaeth ymhellach i lawr yr afon.

Mae Jac y Neidiwr yn rhywogaeth estron oresgynnol (INNS) ac yn mynd yn drech na llystyfiant brodorol, Er bod y blodau porffor yn edrych yn brydferth yn yr haf, pan fydd yn marw yn y gaeaf mae'n gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad.

Gall hyn gael effaith andwyol ar ecosystem yr afon. Gall pridd a gwaddod sy’n erydu o’r tir lenwi bylchau rhwng graean yr afonydd, gan orchuddio’r cynefin sydd ei angen ar bysgod fel eogiaid a brithyllod i ddodwy eu hwyau ac atal ocsigen rhag cyrraedd yr wyau.

Dywedodd Joe Wilkins o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n cais am wirfoddolwyr ac yn ddiolchgar i’r rhai a ddaeth ar y diwrnod am eu cymorth. Fe fyddwn ni allan eto ym mis Gorffennaf yn gwneud mwy o waith i daclo Jac y Neidiwr!”

Bydd y grŵp yn cyfarfod eto ddydd Llun 1 Gorffennaf o 10am-1pm y tu allan i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar Gampws Llambed i wneud gwaith dilynol i reoli planhigion sy’n egino’n hwyrach cyn iddynt flodeuo. I gofrestru, e-bostiwch nathaniel@westwalesriverstrust.org

Arweinir gwaith y grŵp gwirfoddol gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru mewn partneriaeth â phrosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru.

I gael gwybod mwy ewch i'r wefan Prosiect Dileu Jac y Neidiwr | Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru