Cynllun newydd yn ceisio mynd i'r afael â llygredd plastig fferm mewn afonydd

Ailgylchu plastig fferm gyda Birch

Mae cynllun newydd yn cael ei dreialu yn ne Cymru gyda’r nod o ailgylchu 200 tunnell ychwanegol o blastig ffermydd i leihau llygredd plastig ffermydd yn ein hafonydd ac i helpu i amddiffyn natur.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gydag Agriculture Plastics Environment (APE), Birch Farm Plastics ac Afonydd Cymru i gynyddu cyfraddau casglu ac ailgylchu plastigau ffermydd.

Bydd ffermwyr a thirfeddianwyr yn gallu ailgylchu plastig eu fferm am gost is mewn sawl canolfan ar draws y pedwar dalgylch afon: afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau, ac afon Wysg. 

Mae llygredd plastig - fel deunydd lapio silwair o ffermydd - yn broblem gyffredin yn y pedair afon. Gall bywyd gwyllt - gan gynnwys pysgod, adar, amffibiaid a rhywogaethau dyfrol eraill - gael eu hanafu neu eu lladd wrth fynd yn sownd mewn gwastraff plastig silwair. Gall hefyd gronni i greu rhwystrau hyll a all fod yn rhwystr i bysgod fudo a chynyddu’r risg o lifogydd.

Nod y cynllun arbrofol hwn yw gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yn ne Cymru i leihau faint o blastig ffermydd a geir yn ein hafonydd - a gwella cyflwr yr afonydd fel y gall bywyd gwyllt prin a phwysig fel eogiaid, llysywod pendoll yr afon, a dyfrgwn ffynnu.

O heddiw ymlaen bydd ffermwyr a thirfeddianwyr yn gallu mynd â’u plastig i ‘ganolfannau gollwng’ a fydd yn cael eu sefydlu mewn amrywiol farchnadoedd / safleoedd da byw; yn Nhalsarn ger Llanbedr Pont Steffan, Crymych, Llanymddyfri, Pontsenni, Rhaglan ac o bosibl Caerfyrddin. 

Nodwyd mewn adroddiad yn 2023 gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, a fu’n adolygu statws y defnydd o blastig yn y diwydiant ffermio yn y Deyrnas Unedig, bod gan y Deyrnas Unedig gyfradd ailgylchu plastig amaethyddol sydd rhwng 20% a 30%. Mae hyn yn isel o'i gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill fel yr Almaen, Ffrainc ac Iwerddon, sydd â chyfraddau ailgylchu o 65%, 80% a 90% yn y drefn honno.

Dywedodd Chris Thomas, Uwch-swyddog Rheoli Tir Pedair Afon LIFE: “Mae plastigau ffermydd wedi’u canfod yn afon Teifi, afon Tywi, ac afon Cleddau ac maen nhw’n cyfrannu at y problemau amgylcheddol cyffredinol sy’n effeithio ar iechyd yr afonydd.” 
Ychwanegodd:“Mae afonydd iach yn cynnal mwy na dim ond ffermwyr a’r amgylchedd - maen nhw hefyd yn helpu cymunedau i ffynnu a thyfu. Dim ond os ydyn nhw’n iach, ac yn rhydd o lygredd a gwastraff plastig, y gall afonydd gyflawni’r swyddogaeth hon yn llawn, gan gynnal ffermwyr.”
Dywedodd Ian Creasey o APE: “Gan ddysgu o farchnadoedd llwyddiannus yn Ewrop, mae ‘canolfannau gollwng’ yn helpu ffermwyr yn sylweddol i ailgylchu’r plastigau sydd wedi’u defnyddio ar y fferm, a dyma brif ffocws y treial hwn. Nod y cynllun hwn yw cynorthwyo ffermwyr i ailgylchu eu plastigau amaethyddol, a thrwy wneud hynny helpu i warchod yr afonydd hyn rhag llygredd plastig posibl.” 

Yn 2024, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru (WWRT) arolwg o 100 o ffermydd i adolygu arferion cyfredol o ran gwaredu plastigau amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru. 

Dangosodd canlyniadau’r arolwg hwn mai cost yw un o’r prif rwystrau sy’n atal mwy o ffermwyr rhag ailgylchu eu gwastraff plastig silwair. 

Dywedodd Cheryl Birch o Birch Farm Plastics: “Er ein bod ni’n parhau i gasglu’n uniongyrchol o ffermydd ledled Cymru, drwy gynyddu nifer y canolfannau gollwng, ein nod yw cynyddu cyfraddau ailgylchu polythen amaethyddol a, thrwy gydweithio â Pedair Afon LIFE ac APE, gynnig opsiwn cost is i ffermwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”
“Mae ein costau’n is wrth gasglu o ganolfannau gollwng, felly rydyn ni hefyd yn gallu trosglwyddo’r arbediad hwnnw i ffermwyr a hyrwyddo’r opsiwn ailgylchu ar gyfer plastigau gwastraff er budd ffermwyr a’r amgylchedd.”
Dywedodd Gail Davies-Walsh, Prif Weithredwr Afonydd Cymru: “Rydym yn falch iawn bod y cynllun treial hwn yn cael ei gyflwyno i Dde Cymru. Mae'n dilyn prosiect tebyg a gynhaliwyd yn llwyddiannus gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru'r llynedd, felly rydym yn gwybod yr effeithiau cadarnhaol y bydd yn eu cael o ran lleihau faint o blastig amaethyddol mewn afonydd.”

Mae afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau, ac afon Wysg yn ardaloedd cadwraeth arbennig - sy’n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u planhigion, megis eogiaid, llysywod pendoll yr afon, gwangod, dyfrgwn, a chrafanc y dŵr.

I ddod o hyd i'ch 'canolfannau gollwng' agosaf ewch i PEDAIR AFON LIFE - APE UK

Ariennir prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.