Gwaith i wella Cored Aberhonddu ar gyfer pysgod gwarchodedig yn dechrau'r mis yma

Bydd gwaith yn dechrau wythnos nesaf i wella llwybr pysgod Cored Aberhonddu ar gyfer pysgod prin a gwarchodedig yn Afon Wysg.
Bydd y cynllun a fydd yn cael ei weithredu gan Brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gosod llwybr pysgod newydd ar gyfer gleisiaid (eogiaid ifanc) ar y gored.
Ar hyn o bryd cydnabyddir bod Cored Aberhonddu yn rhwystr sylweddol i eogiaid ifanc sy'n mudo i lawr yr afon ar eu taith i'r môr. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau bydd y llwybr gleisiaid newydd yn helpu eogiaid ifanc a rhywogaethau pysgod eraill i symud yn rhydd i lawr yr afon.
Mae gwaith olrhain pysgod yn ddiweddar wedi dangos y gall Cored Aberhonddu arafu mudiad gleisiaid yn sylweddol wrth iddynt symud i lawr yr afon yn y gwanwyn, yn enwedig pan fo llif yn isel, gan eu gwneud yn fwy agored i glefydau ac ysglyfaethu. Mae crynodiadau o eogiaid wedi'u gweld yng nghyffiniau’r gored yn ystod llifau isel y gwanwyn (gwyliwch y fideo yma).
Bydd llwybr gleisiaid newydd yn cael ei osod ar wyneb y gored a fydd yn gwella’r hydroleg a chyflymder llif pysgod sy'n mynd heibio'r gored. Bydd y dyluniad yn cynnwys hollt siâp U, mynediad i’r llwybr pysgod ar siâp ceg cloch, a ramp mynediad.
Y contractwr lleol Midwest Plant fydd yn gwneud y gwaith a’r bwriad yw dechrau wythnos nesaf. Bydd y gwaith yn cymryd tua thri mis i'w gwblhau, os bydd llif yr afon a'r tywydd yn caniatáu.
Nid oes unrhyw gynlluniau i gau llwybrau troed, ond bydd symudiad peiriannau yn cael ei reoli ar y safle ac ar hyd y promenâd o bryd i'w gilydd tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Bydd compownd safle hefyd yn cael ei sefydlu ar dir ger y gored.
Meddai Leila Thornton o Brosiect Pedair Afon LIFE: “Mae’r cynllun hwn wedi bod yn cael ei gynllunio ers blynyddoedd ac rydym wrth ein bodd ein bod, o’r diwedd, yn dechrau ar y gwaith hwn ac yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono hyd yn hyn.”
“Bydd y gwaith hwn yn gwella mynediad yn sylweddol i boblogaethau pysgod sy’n lleihau, gan gynnwys eogiaid sydd mewn perygl, a gobeithio y bydd yn gam tuag at adferiad y rhywogaeth.”
Mae Prosiect Pedair Afon LIFE yn cael ei ariannu gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cynllun ewch i wedudalen Citizen Space yma