Mwy nag wyth milltir o afon Dulais wedi’i hagor ar gyfer pysgod

Y gored ar ôl y gwaith ar Lanwrda Dulais

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau ysgol bysgod ychwanegol ar afon Dulais (Llanwrda), is-afon silio bwysig i eogiaid a brithyllod Afon Tywi. 

Dyma’r trydydd cynllun gwella ysgol bysgod i gael ei osod ar y darn hwn o’r afon, sy’n golygu y bydd mwy nag wyth milltir bellach yn hygyrch i bysgod mudol.

Roedd uchder y gored a’r llifau cyflym drosti yn ei gwneud yn rhwystr sylweddol i eogiaid a brithyllod y môr. I raddau helaeth hefyd, nid oedd modd i lyswennod a llysywod deithio drwyddi o dan y rhan fwyaf o amodau llif, o ystyried, yn wahanol i eogiaid, nad yw’r rhywogaethau hyn yn gallu neidio.

Mae’r gored – sydd wedi’i lleoli i lawr yr afon o bont ffordd yr A40 ger Llanwrda – yn chwarae rhan hanfodol wrth sefydlogi gwely’r afon ac yn amddiffyn sylfeini’r bont i fyny’r afon, felly nid oedd ei symud yn opsiwn. 

Cynhaliwyd y gwaith i greu ramp creigiau i ddileu’r naid fertigol wrth y gored ym mis Mai eleni, a dim ond tair wythnos a gymerodd i’w gwblhau.

Roedd y dyluniad yn cynnwys cyfres o bedwar o “risiau” neu stopiau gwely o garreg floc ar hyd darn 50 metr o’r afon yn union i lawr yr afon o’r gored. Nod y dyluniad yw rhannu’r cwymp o tua 60cm wrth wyneb y gored yn gyfres o risiau llai o 15cm. 

Llenwyd yr adeiledd “gris” sylfaenol hwn â chlogfeini, riprap (deunydd craig wedi’i falu a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer rheoli erydu) a graean i greu gwely wedi’i gynefino gyda sianel llif isel tuag at ganol yr afon. 

Gosodwyd ramp ychwanegol gyda theils â stydiau arnynt ar y gored ar un ochr i ddarparu llwybr amgen i bysgod nofio gwannach fel llyswennod a llysywod.

Dywedodd Peter Jones o brosiect Pedair Afon LIFE: “Mae’r gwymp fertigol o’r rhicyn gwreiddiol ar y gored wedi’i ddileu i bob pwrpas, sy’n golygu nad yw’r gored bellach yn rhwystr i eogiaid na brithyllod y môr a dylai fod yn hawdd hefyd i lyswennod a llysywod fynd drwyddi yn ystod y rhan fwyaf o lifoedd.” 
“Bydd y clogfeini a graean amrywiol sydd yn yr afon nawr yn darparu cynefin lloches rhagorol i rywogaethau fel llyswennod. Mae’r mewnlenwad o riprap wedi helpu i frwydro yn erbyn y problemau sgwrio sylweddol wrth waelod y gored, gan warchod ased Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn y tymor hir.” 

Mae’r cynllun hwn yn uchafbwynt gwaith a wnaed ar hyd yr un darn hwn o afon o ddwy ysgol bysgod arall i fyny ac i lawr yr afon.

Yn 2024, cwblhaodd prosiect Pedair Afon LIFE gynllun tebyg ar bont reilffordd i lawr yr afon o’r gwaith hwn. 

Yn flaenorol, yn 2023, cwblhaodd prosiect Eogiaid Yfory Cyfoeth Naturiol Cymru lwybr pysgod Larinier ar gored i fyny’r afon o’r cynllun hwn. Bydd buddion cyfunol y tri chynllun hyn yn agor mwy nag wyth milltir o gynefin afon gwerthfawr ar afon Dulais. 

Yn aml, mae isafonydd yn cynrychioli’r prif ardaloedd silio mewn afonydd, felly mae adfer mynediad yn hanfodol i wrthdroi’r dirywiad ym mhoblogaethau pysgod dŵr croyw a gwella gwydnwch ecolegol i newid amgylcheddol yn y dyfodol.

Ariennir prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.