Diwrnod Dŵr y Byd 2022
Heddiw, ar 22 Mawrth rydym yn dathlu Diwrnod Dŵr y Byd.
Dechreuodd y Cenhedloedd Unedig gadw’r diwrnod hwn yn flynyddol yn 1993 er mwyn dathlu dŵr ac mae’n codi ymwybyddiaeth o’r 2 biliwn o bobl sydd ar hyn o bryd yn byw heb fynediad diogel at ddŵr. Ffocws craidd Diwrnod Dŵr y Byd yw ysbrydoli gweithredu tuag at Nod 6 Datblygu Cynaliadwy: sef dŵr glân a glanweithdra i bawb erbyn 2030.
Y thema ar gyfer 2022 yw ‘dŵr daear – gwneud yr anweladwy yn weladwy’
Dŵr daear yw'r dŵr sy'n cael ei storio mewn pridd a chreigiau tanddaearol a elwir yn ddyfrhaenau. Mae'r dyfrhaenau hyn yn cael eu llenwi â glaw sy’n ymdreiddio drwy'r ddaear. Mae dŵr daear yn rhan hanfodol o'r cylch dŵr sy’n aml yn cael ei anghofio. Mae’r holl ddŵr croyw hylifol yn y byd bron yn ddŵr daear.
Mae'n adnodd hanfodol, sy’n cynnal ein ffynhonnau, ein hafonydd a'n gwlyptiroedd ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer niferoedd dirifedi o rywogaethau.
Gellir ei dynnu gan ddefnyddio tyllau turio a phympiau i gael dŵr yfed i bobl ac anifeiliaid, a’i ddefnyddio i ddyfrhau cnydau ac ar gyfer ddiwydiant. Ar hyn o bryd mae dŵr daear yn cyflenwi tua 5% o'r cyflenwad dŵr cyhoeddus yng Nghymru ond mewn ardaloedd gwledig ac eiddo diarffordd, efallai mai dŵr daear yw'r unig ffynhonnell ddŵr ymarferol.
Yn anffodus, gellir gorddefnyddio dŵr daear pan gaiff mwy o ddŵr ei dynnu o ddyfrhaenau nag sy'n cael ei ail-lenwi gan law. Bydd gorddefnydd parhaus yn arwain at ddisbyddu'r adnodd a dyna pam rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod digon o ddŵr i bobl ac i'r amgylchedd drwy gynnal y cydbwysedd bregus hwn.
Mae dŵr daear hefyd yn agored i lygredd, ac unwaith y bydd yn cael ei lygru gall fod yn anodd ac yn ddrud i'w lanhau. Ein nod yw atal difrod i ddŵr daear yn y lle cyntaf yn hytrach na gorfod ei adfer yn ddiweddarach.
Bydd dŵr daear yn chwarae rhan hollbwysig wrth addasu i newid hinsawdd. Mae’n gallu cadw afonydd i lifo pan nad oes llawer o law, ac yn gweithredu fel sbwng ar adegau o law trwm. Gallwn hyd yn oed ddefnyddio tymheredd cyson dŵr daear i wresogi ac oeri ein hadeiladau drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio pympiau gwres.
Dyma gamau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i warchod dŵr daear a’i ddiogelu rhag llygredd:
- Gofalwch fod eich system drin carthion yn cael ei chynnal ac yn cael ei chofrestru â ni
- Os oes gennych danc olew ar gyfer gwresogi, gofalwch eich bod yn ei archwilio am arwyddion o olew yn gollwng
- Storiwch a gwaredwch gemegion yn gywir, peidiwch â’u harllwys ar y tir neu i ddraeniau
- Gofalwch eich bod yn defnyddio dŵr yn effeithlon o amgylch y tŷ a’r ardd
- Rhowch wybod inni am unrhyw ddigwyddiadau llygredd neu unrhyw achosion tybiedig o dynnu dŵr yn anghyfreithlon
CNC yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am reoli a diogelu dŵr daear yng Nghymru. Dyma syniad o ba fath o waith rydyn ni'n ei wneud.
Rydym yn cynnal rhwydwaith o safleoedd ledled Cymru lle rydym yn monitro ansawdd dŵr daear ac yn mesur ei lefel. Mae ein data ansawdd dŵr daear yn dangos cyflwr cyfredol dŵr daear yng Nghymru ac yn caniatáu i ni weld ble y gallai fod yn cael ei lygru gan ddefnyddiau tir cyfagos. Rydym hefyd yn ei ddefnyddio i chwilio am fathau newydd o halogyddion.
Mae ein data lefelau dŵr daear yn helpu i ddweud wrthym faint o ddŵr sydd ar gael yn ein dyfrhaenau ac yn caniatáu inni ddeall lle y gallai newid hinsawdd neu batrymau tynnu dŵr fod yn cael effaith arno.
Rydym yn delio â gwaddol o 1300 o fwyngloddiau metel ledled Cymru lle'r oedd cloddio’n digwydd hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r mwyngloddiau hyn wedi llygru dŵr daear â lefelau uchel o fetelau fel sinc, plwm a chadmiwm.
Gall gollyngiadau o ddŵr daear o'r mwyngloddiau hyn gael effaith andwyol ar ecoleg ein systemau afonydd, gan leihau poblogaethau pysgod ac amrywiaeth ffawna infertebratau.
Rydym yn gweithio i ddatblygu systemau i drin y gollyngiadau sy’n llygru fwyaf er mwyn lleihau eu heffeithiau ar afonydd Cymru.
Rydym yn gwella ac yn adfer 750 hectar o gynefinoedd ffen prin yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Corsydd Môn, sef yr ehangder mwyaf ond un o ffeniau yn y Deyrnas Unedig ar ôl East Anglia.
Mae'r ffeniau hyn yn dibynnu ar gydbwysedd dŵr sensitif a ffynhonnau calchfaen sy'n llifo i'r mawn. Bydd adfer y ffeniau hyn yn cloi carbon a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i'r atmosffer ac yn cyfrannu at newid hinsawdd.