Beth sydd gan wartheg ‘Belties’ i'w wneud â'r glöyn byw prinnaf yng Nghymru?

Andrea Rowe ydw i ac rydw i’n ddigon ffodus i fod yn un o’r swyddogion prosiect sy’n gweithio ym maes cadwraeth gloÿnnod byw fel rhan o brosiect Britheg Frown Natur am Byth!

Beth ar y ddaear yw ‘Beltie’ a beth yw britheg frown?

Dychmygwch ei bod hi’n ganol haf - un o’r dyddiau hynny lle mae’r aer yn llonydd ac yn gynnes a’r awyr yn ddigwmwl ac yn las. Rydyn ni’n sefyll ar Old Castle Down ym Mro Morgannwg, yn gwrando ar yr ehedydd yn canu wrth iddyn nhw esgyn, ymhlith porfeydd uchel a rhedyn gwyrdd ac yn edrych ar liwiau pinc a phorffor blodau ysgall a mieri. Yna dychmygwch fflach o oren llachar yn gwibio heibio i ni a glanio. Os ydyn ni’n lwcus, gallwn gerdded ar flaenau'n traed ychydig yn agosach. Yno, yn eistedd yn mwynhau'r neithdar, mae glöyn byw gyda'r adenydd oren uchaf mwyaf llachar a dotiau a strociau du a smotiau ariannaidd oddi tanynt. Dyma’r fritheg frown - a dyma’r unig le y gellir dod o hyd i’r glöyn byw prinnaf yng Nghymru erbyn hyn.


High Brown Fritillary underwing ©Peter Eeles

 


High Brown Fritillary ©Iain Leach

Ond os ydyn ni’n troi o gwmpas, byddwn hefyd yn dod o hyd i rai creaduriaid rhyfeddol eraill. Mae’r rhain yn fawr ac yn flewog, wedi eu lliwio’n ddu gyda bandiau gwyn o amgylch eu canol – yn gwisgo coleri ffansi, maent yn urddasol ac yn drawiadol. Dyma'r ‘Belties’ neu, i roi eu henw priodol iddyn nhw, y gwartheg Belted Galloway.

Mae’r gwartheg hyn yn rhan hynod bwysig o’n prosiect.


Belted Galloway cattle ©Alan Sumnall

Gadewch imi ddweud mwy wrthych am ein pili-pala arbennig iawn

Y fritheg frown yw'r hyn a alwn yn ‘arbenigwr’ - mae ganddi ofynion cynefin penodol iawn y mae angen eu diwallu er mwyn iddi oroesi a ffynnu. Y gwrthwyneb fyddai rhywogaeth ‘gyffredinol’ fel gweirlöyn y ddôl, un o’n gloÿnnod byw mwyaf cyffredin, sydd i’w gael mewn llawer o wahanol gynefinoedd megis gerddi, dolydd, twyni a choetiroedd, ac mae ei lindys a’i oedolion yn bwydo ar amrywiaeth eang o blanhigion.

Nid yw cylch bywyd y fritheg frown byth yn methu fy syfrdanu. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'r flwyddyn fel wy bach. Yn ddim ond tuag 8mm o faint, maen nhw'n rhyfeddol o anodd eu gweld. Ond fel llawer o wyau pili-pala, maen nhw'n weithiau celf: cerfluniau bach, conigol gydag asennau fertigol a llinynnau llorweddol sy'n dechrau'n wyrdd-frown ac yn newid o liw pinc-lwyd i lwyd.


High Brown Fritillary butterfly eggs © Peter Eeles

Mae'r glöyn byw benywaidd yn dodwy ei hwyau, un ar y tro, mewn ardaloedd lle mae rhedyn a fioledau cyffredin yn tyfu gyda'i gilydd yn y cydbwysedd cywir. Mae llawer o bobl yn meddwl bod rhedyn yn ofnadwy i fywyd gwyllt, ond mae'n gwbl hanfodol ar gyfer cylch bywyd y fritheg frown. Os yw'r rhedyn yn rhy drwchus, ni fydd y fenyw yn gallu dodwy ei hwyau a bydd yr haen o falurion rhedyn marw yn rhy drwchus a dwys i ganiatáu’r fioledau i dyfu. Yn rhy denau a glaswellt fydd yn dominyddu, gan atal y fioledau rhag tyfu eto. Ond pan fydd y cydbwysedd yn gywir iawn, mae pethau rhyfeddol yn digwydd. Mae ffrondau a choesynnau’r rhedyn yn gweithredu ychydig fel y mae tŷ gwydr yn ei wneud yn eich gardd, gan greu microhinsawdd a all fod 15°C i 20°C yn uwch na’r ardaloedd glaswelltog cyfagos.


Common dog violets flowering in Bracken © Andrea Rowe

Mae’r fioledau’n ffynnu yn y cynhesrwydd ac, yn gynnar ym mis Mawrth, pan all y tywydd fod yn oer o hyd, mae larfa bach 2mm o hyd (yr enw technegol ar lindysyn) yn dod i'r amlwg ac yn dechrau bwyta. Ond does dim byd yn amrywiol am ddeiet y lindysyn yma - mae'n hoffi fioledau a dim byd ond fioledau. Yna mae'n tyfu, yn bwrw croen, yn bwyta ac yn tyfu ac wedyn yn ailadrodd y broses hon! Ac os oeddech chi'n meddwl bod yr wy yn anodd ei weld, byddech chi'n rhyfeddu at y larfa!


High Brown Fritillary larvae © Peter Eeles and Paul Dunn

Ar ôl tua deg diwrnod, mae wedi datblygu'r cuddliw mwyaf gwych - corff brown gyda brychau du, streipen wen, a phigau sy'n gwneud iddo edrych yn union fel ffrondau'r rhedyn marw y mae'n eu defnyddio i dorheulo arnynt. Rwy'n edrych ymlaen at yr her o ddod o hyd iddynt eleni! Mae cynhesrwydd y rhedyn yn helpu'r larfa i ddatblygu'n gyflym. Ar ôl dwy wythnos ac yn mesur tua 40mm, mae'r lindysyn wedi tyfu'n llawn.

Y cam olaf yw'r chwiler, sydd yr un mor rhyfeddol i edrych arno â'r larfa. Mae'n hongian wyneb i waered, gan esgus bod yn ddeilen wedi crebachu am ddwy i dair wythnos cyn i'r oedolyn ddod i'r amlwg i'n syfrdanu.


High Brown Fritillary pupa © Paul Dunn

Camu mewn i helpu i gynnal y cydbwysedd

Fel y gallwch weld, mae cael y cynefin yn iawn ar gyfer y fritheg frown yn gymhleth. Yn anffodus, dyma pam mae'r glöyn byw wedi'i golli o lawer o'i hen safleoedd a dim ond mewn un man yng Nghymru y mae i'w gael erbyn hyn. Heb unrhyw ymyrraeth, mae’n hawdd iawn i redyn fynd yn rhy drwchus a rhywogaethau fel mieri ac eithin i ddominyddu, a chyn i chi wybod, mae’r prysgwydd wedi troi’n goetir. Mae hynny'n iawn mewn rhai mannau; mae prysgwydd a choetir yn gynefinoedd hynod bwysig hefyd. Ond mewn rhai mannau, fel Old Castle Down, lle mae clytwaith o laswelltir, rhostir a rhedyn llawn rhywogaethau yn cynnal y fath gyfoeth o fywyd gwyllt, mae angen i ni gamu i mewn i helpu i gynnal y cydbwysedd.

Yn ffodus i’r fritheg frown, mae digon o gydbwysedd wedi’i gynnal ar safle ein prosiect i gynnal rhai ardaloedd o gynefin addas. Ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod llawer ohono wedi'i gofrestru fel tir comin.

Beth yw tir comin?

Mae tir comin wedi bodoli ers amser maith, yn gyntaf drwy’r Magna Carta ym 1215, i ddarparu ‘hawliau comin’ neu ‘hawliau cominwyr’ i’r bobl dlotaf mewn cymunedau gwledig nad oeddent yn berchen ar unrhyw dir eu hunain - sef yr hawl i ddefnyddio'r tir fel ffynhonnell coed ac i ddefnyddio rhedyn ar gyfer sarn a thir glas ar gyfer da byw. Diolch i'n cominwyr lleol sy'n defnyddio eu hawliau i bori, mae'r fritheg frown wedi goroesi o amgylch Old Castle Down.

Os yw'r tir wedi cael ei bori o'r blaen, pam mae'r ‘Belties’ mor bwysig nawr?

Yn y gorffennol, roedd llawer mwy o gominwyr yn defnyddio eu hawl i bori ac, ar Old Castle Down a’r ardaloedd cyfagos, roedd cymysgedd o wartheg a defaid yn pori’r tir. Ond dros y blynyddoedd, mae nifer y porwyr wedi lleihau ac, ar yr un pryd, mae’r tir comin wedi cael ei ddefnyddio gan fwy a mwy o bobl at ddibenion hamdden ac mae’r ffyrdd sy’n croesi’r tir wedi dod yn fwy a mwy prysur. Mae hyn oll wedi arwain at leihad yn nifer y da byw ar y safle a’r math ohonynt.

Mae ailgyflwyno pori gan wartheg ar ein safle yn dod â manteision enfawr ond hefyd rhai heriau, megis ‘Sut mae cadw'r gwartheg yn ddiogel heb ffensys ar dir comin?’ ac ‘A fydd pobl yn cael eu dychryn?’.

Ffin ffens rithwir

Yn ffodus, mae'r ateb i'r broblem gyntaf wedi'i ddarparu gan dechnoleg a'r coleri ffansi hynny y soniais amdanynt. Mae pori dim ffensys yn caniatáu i'r porwyr blotio ffens ffin rithwir sy'n cael ei chyfleu i'r coler GPS y mae'r gwartheg yn ei wisgo trwy'r rhwydwaith symudol. Gyda thipyn o hyfforddiant, mae'r gwartheg yn dysgu adnabod sŵn rhybudd clywadwy sy'n gadael iddynt wybod ble mae'r ffens rithwir. Y peth gwych am y dechnoleg hon yw bod modd symud y ffens rithwir yn hawdd iawn er mwyn i ni allu targedu ardaloedd sydd angen eu pori ac osgoi ardaloedd nad oes angen eu pori - gan osgoi gwaith diangen (a chost) ffens go iawn.

O ran canfyddiad pobl o'r gwartheg, mae'r ‘Belties’ wedi bod yn ddewis gwych. Maen nhw’n ymddwyn yn dda ac yn dawel ac yn ddof. Maen nhw wedi bod yn anhygoel o gwmpas unrhyw un sydd wedi ymuno â ni ar daith gerdded hyd yn hyn ac maen nhw bob amser yn hapus i sefyll am lun! Fel y gallwch chi weld wrth ddarllen hwn, mae gen i feddwl mawr o’r brîd hwn! Maen nhw’n dod yn wreiddiol o Galloway yn yr Alban ac yn cael eu defnyddio'n aml ar gyfer pori cadwraethol oherwydd eu bod yn wydn iawn. Mae ganddyn nhw gôt allanol hir a bras o wallt a chôt isaf meddal - sydd yn wych ar gyfer eu cadw'n gynnes ac i ymdopi â glaw (sydd wedi bod yn amhrisiadwy y gaeaf hwn!) - ac mae hyn yn golygu y gallan nhw aros ar y safle yn ystod y gaeaf. Maen nhw hefyd wedi'u haddasu ar gyfer tir pori garw a serth a gallant ddefnyddio gweiriau bras y mae bridiau gwartheg eraill  <https://www.roysfarm.com/cattle-breeds/>fel arfer yn eu hosgoi - mae hynny'n bwysig iawn gan ei bod yn golygu eu bod nhw’n gallu cynnal eu cyflwr da ar ein safle (sy'n bwysig i'n ffermwyr) wrth wneud yr union hyn y mae arnom ei angen iddyn nhw ei wneud.


Smile! © Andrea Rowe

Mae gwartheg yn pori mewn ffyrdd gwahanol iawn i ddefaid

I ddechrau, mae ganddyn nhw gegau llawer mwy ac maen nhw'n defnyddio eu tafodau mawr i dynnu twmpathau o lystyfiant i'w cegau. Maen nhw’n codi pa bynnag lystyfiant sy'n bresennol lle maent yn pori ac nid ydyn nhw’n targedu planhigion penodol. Mae hyn yn helpu i warchod amrywiaeth planhigion. Nid ydynt ychwaith yn pori llystyfiant yn rhy agos at y ddaear, gan adael brithwaith o dwmpathau a darnau noeth o dir. Mae hyn yn darparu amrywiaeth yn oedran a strwythur y llystyfiant, sy'n bwysig iawn ar gyfer infertebratau, mamaliaid bach, ac adar sy'n nythu ar y ddaear. Mae hefyd yn darparu lle i blanhigion, gan gynnwys fioledau, i dyfu. Ac maen nhw’n defnyddio ynni wrth bori, sy’n golygu bod ffrwythlondeb y pridd yn lleihau dros amser - sy’n berffaith ar gyfer cynefinoedd llawn rhywogaethau.

Oherwydd eu maint, gall y ‘Belties’ hefyd greu eu mynediad eu hunain i ardaloedd garw ac ardaloedd trwchus o redyn - mae hyn yn helpu i reoli prysgwydd (y byddan nhw hefyd yn ei bori) ac yn creu tir moel i infertebratau. Gallan nhw gael mynediad i ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd gyda pheiriannau. Hyd yn oed pan fyddant yn gorwedd, gallant helpu - trwy falu a chleisio'r rhedyn yn naturiol, sy'n helpu i leihau twf ac yn creu microhinsoddau.


Bracken trampled by our Belties © Andrea Rowe

Peidiwn ag anghofio tail y gwartheg

Fel bonws ychwanegol, mae eu tail yn bwysig iawn hefyd! Mae’r tail yn cynnal chwilod y dom a chyfoeth o infertebratau, sydd yn eu tro yn darparu bwyd i rywogaethau eraill ar ein safle fel breision melyn, bronfreithod, ystlumod a llygod pengrwn, sydd yn eu tro yn darparu bwyd i wiberod a thylluanod.


Cattle dung ©Andrea Rowe

Eisiau cymryd rhan?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ein tymor yn y caeau a mynd allan ar y safle i gynnal arolwg am larfau a’r oedolion yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Os oes unrhyw un am ymuno â mi, cysylltwch â fi! naturambyth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru